Posts in Category: COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth)

Ffrind mewn Angen (CBS Pen-Y-Bont ar Ogwr) 

Yn ystod pandemig Covid-19 fe weithiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr ochr yn ochr â Chymdeithas Gwirfoddol Sefydliadau Pen-y-Bont ar Ogwr (BAVO) i ymestyn y cynllun Cymdeithion Cymunedol gan gydnabod yr angen i addasu dulliau mewn cysylltiad â’r pandemig a chyfyngiadau. Roedd Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr a’r Cyngor eisiau darparu cefnogaeth i unigolion mewn ffyrdd gwahanol, yn cynnwys cyfeillio dros y ffôn i ddarparu cefnogaeth o bell, gan dargedu oedolion hŷn sydd wedi’u hynysu dros gyfnod y gaeaf. Yn ystod 2020, derbyniwyd 229 o atgyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth cyfeillio. Cefnogwyd 145 o unigolion gyda chyfleoedd cyfeillio, ac roedd 102 o wirfoddolwyr yn rhan o brosiect cyfeillio dros y ffôn a 50 o unigolion yn rhan brosiect treialu cyfaill gohebol. Parhaodd y cynllun cyfaill gohebol rhwng cenedlaethau i dyfu er gwaethaf yr amhariadau gyda’r ysgolion yn cau ac mae’r Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr wedi creu cysylltiadau gydag ysgol gynradd lleol yn ystod y cyfnod clo i ysgrifennu llythyrau/darluniadau y datblygodd Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr y rhain mewn i gardiau post i’w hanfon at fuddiolwyr a gwirfoddolwyr Cymdeithion Cymunedol.

Gwirfoddoli yng Nghymuned Sir Fynwy (CS Fynwy) 

Roedd Cyngor Sir Fynwy  a sefydliadau’r trydydd sector wedi gweithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 i ddatblygu strwythur cefnogi ar gyfer grwpiau cymunedol. Roedd y strwythur cefnogi yn cynnwys hyfforddi a sgrinio gwirfoddolwyr ar gyfer diogelu, rhannu gwybodaeth, datblygu rhwydweithiau cymdogaeth ac un pwynt mynediad yn y cyngor fyddai’n gallu cynorthwyo’r grwpiau gydag unrhyw heriau yr oeddent yn eu hwynebu. Roedd egwyddorion seiliedig ar ased a chred ac ymddiried mewn cymunedau yn sylfeini strategaeth y cyngor ar gyfer rheoli’r cyfnod clo. Roedd cryfder perthnasoedd y cyngor gyda’r grwpiau cymuned presennol a grwpiau cymorth cydfuddiannol newydd yn golygu bod y cyngor yn gallu cael budd drwy gefnogi’r cymunedau mewn llawer mwy na siopa a chasglu presgripsiynau. Mae’r math hwn o ddull o dan arweiniad y gymuned ac wedi’i lywio gan berthynas bersonol wedi ysbrydoli creu Rhaglen Llysgennad y Dref newydd y sir. Wedi’i drefnu gan gynghorau tref, gyda chefnogaeth y cyngor sir a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, mae’r rhaglen yn gweld gwirfoddolwyr lleol yn cwrdd gyda’r sawl sy’n teimlo’n ansicr am adael eu cartrefi a cherdded gyda nhw o amgylch canol y dref. Mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant fel y gallant roi cyngor am fesurau Covid-19 sydd ar waith o amgylch canol y dref a’r siopau, sgwrsio am les cyffredinol ac arwyddbostio i wasanaethau lleol.

 

Mae manylion pellach wedi’i gasglu mewn Astudiaeth Leol Newydd (Ion 2021): Symud y Cydbwysedd: Addasu'n lleol, arloesi a chydwithio yn ystod y pandemig a thu hwnt

Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021 15:27:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth) Sir Fynwy

Ysbryd Cymunedol Gwynedd (Cyngor Gwynedd) 

O fewn pythefnos cyntaf  y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, roedd dros 600 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli gyda Banc Gwirfoddolwyr Mantell Gwynedd   Roedd Cyngor Gwynedd a chyrff trydydd sector yn cynnal cyfarfodydd ar-lein ffurfiol ac yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cyfunol i wasanaethu anghenion cymunedau drwy nodi bylchau, rhannu adnoddau a chamu i fyny i’r galw. Er bod natur gwirfoddoli wedi newid ers y cyfnod clo cyntaf gyda llawer o bobl yn dychwelyd i’r gwaith neu i addysg, mae’r ysbryd gwirfoddoli wedi parhau. Roedd llawer o’r bobl oedd wedi cofrestru’n wreiddiol i wirfoddoli gyda Mantell Gwynedd ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf wedi estyn allan i wirfoddoli eto yn ystod y Cyfnod Atal Byr yn yr Hydref. 

 

Mae manylion pellach wedi’i gasglu mewn Astudiaeth Leol Newydd (Ion 2021): Symud y Cydbwysedd: Addasu'n lleol, arloesi a chydwithio yn ystod y pandemig a thu hwnt

Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021 14:29:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth)

Gwasanaeth Cymorth Cymunedol Conwy (CBS Conwy) 

Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy linell gymorth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol (GCC) ym mis Mawrth 2020, a'i bwrpas oedd darparu cymorth i unrhyw un yn y gymuned nad oedd yn gallu galw ar ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help i wneud siopa, danfon meddyginiaeth ac ati. Darparwyd cymorth i ddechrau trwy baru gwirfoddolwyr ac yna fe symudon ni ymlaen i ddefnyddio staff a adleoliwyd dros dro o wasanaethau eraill yn y cyngor. Anogwyd gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) i gael eu paru â sefydliadau lleol. Mae gan CBS Conwy gytundeb â nifer o siopau lleol a’r ddwy siop Tesco yn y sir i gymryd taliad dros y ffôn gan unigolion sy'n defnyddio'r GCC ar gyfer ceisiadau siopa. Pan fydd Staff Conwy wrth y til, mae'r siop yn ffonio'r cwsmer sydd wedyn yn talu am ei siopa dros y ffôn. Mae yna broses mewn lle hefyd i gynorthwyo os nad oes gan unigolion fodd i dalu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth GCC wedi'i ostwng yn unol â llacio’r rheolau clo ac mae nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn lleihau. Mae pob meddygfa a fferyllfa wedi cael gwybod ac wedi cael eu hannog i gofrestru gyda'r Groes Goch os oes angen cymorth arnynt i ddosbarthu presgripsiynau.

Cefnogi Pobl Ddiamddiffyn Ynysig drwy'r Cynllun Cyfeillio (CBS Caerffili) 

Yn ystod y drydedd wythnos ym mis Mawrth fe ysgrifennodd CBS Caerffili at y 70,000 a mwy o aelwydydd yn y fwrdeistref sirol yn cynnig cefnogaeth i bobl oedd yn pryderu am gyngor Llywodraeth y DU i rai dros 70 oed, neu bobl sydd â chyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes, i hunan ynysu os oeddent yn teimlo na fyddent yn gallu ymdopi gyda siopa dyddiol neu gasglu presgripsiynau. Fe gysylltodd 1560 o bobl hŷn a diamddiffyn â’r llinell gymorth bwrpasol yn gofyn am gefnogaeth. Ar yr un pryd galwyd ar staff i weithredu os oeddent yn gallu helpu fel gwirfoddolwyr er mwyn darparu ymateb ar unwaith. Yn y diwedd daeth 590 aelod o staff i weithredu fel Cyfeillion a chawsant eu paru gyda hyd at 10 o oedolion/teuluoedd diamddiffyn yr un. Gan fod mynediad at arian yn anodd, ac nad oedd unrhyw ganllawiau gan CGGC yn bodoli ar y pryd, sefydlwyd mynediad at gardiau credyd corfforaethol ac arian mân ar fyr rybudd i atal honiadau o gamdriniaeth ariannol a thwyll. Roedd preswylwyr yn derbyn anfoneb yn ddiweddarach am siopa a brynwyd ar eu rhan. Ar yr un pryd darparodd y Cyngor yrwyr oedd wedi derbyn gwiriad uwch y GDG i fferyllfeydd lleol i helpu gyda dosbarthu meddyginiaeth gan nad oedd y gwasanaethau gyrwyr arferol yn weithredol. Wrth i’r cyfnod clo lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain mae nifer o staff wedi parhau i gynnal rôl cyfeillio gyda’r bobl y maent wedi bod yn eu cefnogi. Mae’r cynllun nawr yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol i gefnogi’r nifer llai o bobl sy'n parhau i fod angen cefnogaeth drwy'r Tîm Adfywio Cymunedol sy'n gweithio gyda'r Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Mae Cydlynydd Gwirfoddolwyr a benodwyd ar y cyd yn helpu i reoli’r Cynllun Cyfeillio gyda’r bwriad o ddatblygu cynllun gwirfoddoli corfforaethol mwy ffurfiol. Mae’r Tîm Adfywio Cymunedol yn gweithio’n agos gyda grwpiau gwirfoddol COVID yn y gymuned leol yn arbennig o ran helpu pobl ynysig sydd wedi cofrestru ar y Cynllun Cyfeillio i fod â gwell cysylltiad â’u cymunedau.

Gyda’n gilydd rydym yn brwydo yn erbyn y Coronafeirws Covid-19 (Cyngor Sir y Fflint) 

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) i sicrhau bod pobl ddiamddiffyn yn derbyn y gefnogaeth briodol.  Cyn Covid-19, roedd gan (FLVC) fynediad i gyfeiriadur o fudiadau cymunedol cymeradwyedig h.y. bod y sawl a gyfansoddwyd wedi derbyn hyfforddiant priodol, a bod polisïau ar waith, megis diogelu. Mae’r Cyfeiriadur yn cael ei ddiweddaru wrth i grwpiau cymunedol newydd sefydlu. Mae FLVC yn cyflogi dau aelod o staff o fewn y tîm Un Pwynt Mynediad (SPoA), sy’n cyfeirio ac yn cefnogi unigolion i gael mynediad i’r gefnogaeth gwirfoddol a chymunedol sydd ar gael ar draws Sir y Fflint. Mae aelodau o staff sydd ar ffyrlo o fudiadau sy'n gweithio'n agos gyda'r Cyngor wedi cael eu hannog i wirfoddoli drwy wefan Gwirfoddoli Cymru.  Mae dros 200 o bobl wedi cofrestru i wirfoddoli yn Sir y Fflint, gydag 84 o unigolion yn dewis gwirfoddoli i’r cyngor, yn ogystal â chynnal hyfforddiant rhithiol. Gyda’n gilydd rydym yn brwydo yn erbyn y Coronafeirws Covid-19 

Arwyr y Fro (Cyngor Bro Morgannwg) 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sefydlu Tîm Cymorth Argyfwng i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth, gan weithio'n agos gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Bro Morgannwg  , ac Age Connects Caerdydd a’r Fro i gyfeirio pobl i fudiadau a allai helpu. Mae Arwyr y Fro yn gronfa ddata y gellir ei chwilio, sy’n helpu i gysylltu unigolion mewn angen i gefnogaeth y sawl sy'n ei gynnig. Gall pobl gofrestru os oes angen cymorth arnynt gyda siopa bwyd neu gasgliadau meddyginiaeth, er enghraifft, fel y gall unigolion neu grwpiau helpu gyda’r fath dasgau. Ar hyn o bryd, mae nifer o bobl yn gwirfoddoli ar draws y Fro, gyda dros 2,000 o bobl yn cofrestru ers diwedd mis Mawrth pan darodd argyfwng Covid-19.

Mae Cronfa Grant Argyfwng hefyd wedi cael ei sefydlu i gynnig grantiau o hyd at £3,000 i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned, yn ogystal â busnesau cymwys.

Canolfannau Cydnerthedd Cymunedol (CBS Rhondda Cynon Taf) 

Mae Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Rhondda Cynon Taf wedi sefydlu saith Canolfan Cydnerthedd Cymunedol yn gyflym, sy’n cynnwys timau ‘rhithiol’ amlddisgyblaethol a sefydliadol o wasanaethau a phartneriaid y Cyngor, a arweinir gan Gydlynydd Cymunedol y Cyngor.

Mae’r Timau Cydnerthedd Cymunedol yn cysylltu â’r bobl sydd yn gofyn am gymorth, yn ogystal â’r sawl ar restr warchod y GIG, i ddarparu cefnogaeth gyda siopa, casglu presgripsiynau, cerdded cŵn a gwasanaethau cyfeillio, gan baru anghenion preswylwyr gyda gwirfoddolwyr lleol, grwpiau cymunedol, sefydliadau partner, neu drwy ddarparu cefnogaeth staff.

Hyd yma, mae dros 2,800 o breswylwyr wedi cael eu cefnogi gan y Canolfannau Cydnerthedd Cymunedol a bron i 11,000 o breswylwyr ar restr warchod y GIG wedi derbyn cyswllt dros y ffôn, gyda chynnig gweithredol o gefnogaeth. 

Bu ymateb ysgubol gyda dros 1,100 cais am wirfoddolwyr, ac mae’r Cyngor wedi oedi recriwtio ar hyn o bryd wrth iddynt weithio i weithredu Gwirfoddolwyr Cydnerthedd Cymunedol mewn ymateb i’r galw lleol.

Cysylltwyr Cymunedol ym Mhowys (Cyngor Sir Powys) 

Mae Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), fel partneriaid allweddol Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, wedi sefydlu Tîm Ymateb i Argyfwng Sector Cymunedol (CSERT) i gydlynu a chefnogi ymateb i argyfwng ar gyfer unigolion yn y gymuned efallai sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID 19 drwy wirfoddolwyr ffurfiol ac anffurfiol. Mae CSERT, gyda chefnogaeth tri Cysylltwr Cymunedol ar ddeg, sydd wedi’u lleoli o amgylch y sir, yn trefnu cefnogaeth ymarferol i breswylwyr diamddiffyn (ar y rhestr gwarchod ac fel arall) gan wirfoddolwyr trwy rwydweithiau cefnogi lleol. Yn nhermau’r gwasanaeth a gynhigir drwy CSERT, darperir siopa, casgliadau meddyginiaethau, yn ogystal â gwasanaeth cyfeillio i fynd i’r afael ag unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae gan Bowys dros 4,000 o wirfoddolwyr ar draws y sir, ar unrhyw adeg. Mae CSERT wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth gynyddu cefnogaeth gwirfoddol ffurfiol yn ystod yn pandemig.

Postio gan
Jenna Redfern
Dydd Mercher, 17 Mehefin 2020 09:51:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Cysylltwyr Cymunedol) COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth) Powys

Hwb Cymunedol Sir Benfro (Cyngor Sir Benfro) 

Mae Hwb Cymunedol Sir Benfro yn siop un stop i unrhyw gymorth sydd ei angen yn ystod y pandemig presennol, o help gyda siopa i alwad ffôn cyfeillgar.  Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Benfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llesiant Delta. Mae preswylwyr a fyddai’n hoffi gwirfoddoli yn cael eu cyfeirio at cyfeirlyfr rhyngweithiol ar y we o sefydliadau cymorth cymunedol sydd wedi cofrestru gyda PAVS, neu maen nhw’n gallu gwirfoddoli yn uniongyrchol trwy Gwirfoddoli Cymru.  Mae 94 Grwpiau Cymorth Cymunedol wedi cofrestru gyda PAVS, a dros 600 o wirfoddolwyr wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru. 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30