Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sefydlu Tîm Cymorth Argyfwng i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth, gan weithio'n agos gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Bro Morgannwg , ac Age Connects Caerdydd a’r Fro i gyfeirio pobl i fudiadau a allai helpu. Mae Arwyr y Fro yn gronfa ddata y gellir ei chwilio, sy’n helpu i gysylltu unigolion mewn angen i gefnogaeth y sawl sy'n ei gynnig. Gall pobl gofrestru os oes angen cymorth arnynt gyda siopa bwyd neu gasgliadau meddyginiaeth, er enghraifft, fel y gall unigolion neu grwpiau helpu gyda’r fath dasgau. Ar hyn o bryd, mae nifer o bobl yn gwirfoddoli ar draws y Fro, gyda dros 2,000 o bobl yn cofrestru ers diwedd mis Mawrth pan darodd argyfwng Covid-19.
Mae Cronfa Grant Argyfwng hefyd wedi cael ei sefydlu i gynnig grantiau o hyd at £3,000 i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned, yn ogystal â busnesau cymwys.