CLILC

 

Ymateb CLlLC i gyhoeddi Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni gan Lywodraeth y DU

  • RSS
Dydd Mercher, 21 Medi 2022 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Mercher, 21 Medi 2022

Yn ymateb i’r cynllun a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan lywodraeth y DU, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Tra’r ydyn ni’n croesawu cynnwys cynghorau yn y gwarantiad chwe-mis prisiau ynni gan lywodraeth y DU, byddwn yn cymryd amser i edrych ar y manylion.

“Does dim posib gorbwysleisio graddfa’r her sy’n wynebu gwasanaethau lleol. Mae gwasanaethau yn wynebu cynnydd o hyd at 285% mewn costau ynni, sy’n golygu y bydd angen llawer mwy o gefnogaeth gan lywodraeth y DU i gwrdd â’r pwyseddau aruthrol. Ar wahan i filiau ynni, mae costau cyflogau a chwyddiant yn gorfodi cynghorau i ail-edrych ar gynlluniau gwariant dim ond i gwrdd â’u dyletswydd statudol i osod cyllidebau cytbwys.”

“Pob dydd, mae ein cymunedau yn edrych i gynghorau am gefnogaeth. Ond mae gwir angen mwy o adnoddau ar frys os ydyn ni am amddiffyn ein gwasanaethau lleol hanfodol. Rydym yn galw ar lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gefnogaeth addas i helpu cynghorau i helpu cymunedau.”

https://www.wlga.cymru/wlga-response-to-uk-government-energy-bill-relief-scheme