CLILC

 

Rhaglen Gwella Gwastraff

Mae’r Rhaglen Gwella Gwastraff yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru o dan adain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Y tîm yw:

 

  • Craig Mitchell, Pennaeth Cefnogi Gwastraff
  • Jonathan Roberts, Swyddog Gwella - Gwastraff
  • Emma Shakeshaft, Swyddog Economi Gylchol a Gwastraff
  • Barry Williams, Swyddog Economi Gylchol a Gwastraff
  • Eve Swindley, Swyddog Economi Gylchol a Gwastraff

 

Ers 2007 mae’r Rhaglen Gwella Gwastraff wedi bod yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i’w helpu i wella perfformiad ac effeithlonrwydd eu gwasanaethau gwastraff yn unol â phedwar amcan craidd: tystiolaeth, effeithlonrwydd, gwella perfformiad a chyflawni egwyddorion cynaliadwy ehangach.

 

Prif rôl y rhaglen yw:

 

  • casglu, dilysu a dadansoddi data perfformiad allweddol, gan ymateb i anghenion Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol sy’n bartneriaid;
  • cyhoeddi’r data mewn ffordd sy’n gofalu y bydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gwneud y gorau o’r data yma er mwyn gwella gwasanaethau;
  • bod yn sylfaen ar gyfer cynlluniau a phenderfyniadau o ran gwasanaethau effeithiol ac effeithlon ledled y 22 awdurdod lleol drwy ledaenu’r data hwnnw yn gyson mewn achlysuron rhanbarthol, rhwydweithiau a phyrth ar y we;
  • datblygu offer ac adnoddau fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwasanaethau rheng flaen;
  • caniatáu caffael ar y cyd gan gynnwys cydweithredu; a
  • cefnogi gweithgareddau’r Rhaglen Newid Gydweithredol.

Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Barry Williams

https://www.wlga.cymru/waste-improvement-programme