CLILC

 

Cynghorau De Cymru yn Ymateb i Ymchwiliad i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru

  • RSS
Dydd Iau, 04 Ionawr 2024 Categorïau: Diogelwch cymunedau a thân ac achub Newyddion
Dydd Iau, 04 Ionawr 2024

Mewn ymateb i gyhoeddiad yr ymchwiliad annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae’r 10 cyngor sy’n gweithredu yn ardal De Cymru wedi cyhoeddi’r datganiad a ganlyn:

 

Fel arweinwyr cynghorau yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym yn hynod o frawychus ac yn bryderus o weld canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol i ddiwylliant gwaith y Gwasanaeth. Mae’r adroddiad yn adlewyrchiad damniol o rai achosion erchyll o ymddygiad annerbyniol ac ysgytwol na ellir byth eu derbyn yn y gweithle a diolchwn i’r tîm adolygu ac i bawb a gyfrannodd eu profiadau i’r adolygiad.

 

Ni ellir ac ni fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef a byddwn yn ceisio sicrwydd brys gan yr Awdurdod Tân ac Achub bod yr holl argymhellion a wneir gan y tîm adolygu yn cael eu gweithredu'n llawn, nid yn unig mewn geiriau ond trwy gamau gweithredu a chyfathrebu clir.

 

Mae angen, ac yn wir hawl, i bob gweithiwr a’r cyhoedd ddisgwyl a derbyn safonau uchel o ymddygiad gan ddiffoddwyr tân a staff eraill fel gweision cyhoeddus. Trwy ein cysylltiadau gyda'r Awdurdod byddwn yn ceisio sicrwydd o'r fath a chyfarfod gyda'r Cadeirydd i drafod ein pryderon a'n disgwyliadau ar gyfer symud ymlaen.

 

Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein prosesau craffu yn ceisio adborth rheolaidd a byddwn yn craffu ar y cynnydd a wneir o ran newid diwylliant ac arferion.

Rydym yn awyddus i weithio gyda'r Gwasanaeth a'r Awdurdod i wneud y newidiadau angenrheidiol wrth i ni ddysgu o ganfyddiadau'r adroddiad damniol hwn a mynd i'r afael â hwy.

 

DIWEDD –

https://www.wlga.cymru/south-wales-councils-respond-to-investigation-of-south-wales-fire-and-rescue-service