CLILC

 

Pecyn Cymorth Caffael Cynaliadwy Awdurdodau Lleol

 

Pecyn Cymorth Caffael Cynaliadwy Awdurdodau Lleol

 

Mae’r Pecyn Cymorth hwn wedi ei ddatblygu i gefnogi awdurdodau lleol i ymgorffori datgarboneiddio a chynaliadwyedd ar gyfer caffael ar bob lefel. 

 

Mae’r Pecyn Cymorth, sydd wedi ei lunio o ystod o arferion da rhyngwladol, yn darparu canllawiau a meini prawf manylion samplau i’w defnyddio mewn tendrau o bob gwerth. Mae wedi ei ddylunio i fod yn hyblyg, y gellir ei olygu mewn ymateb i ganllawiau a deddfwriaeth sy’n datblygu sy’n ymwneud â chaffael cynaliadwy a datgarboneiddio caffael. Mae’n adnodd ar gyfer yr holl swyddogion sy’n ymwneud ag ymarferion caffael – nid gweithwyr proffesiynol caffael yn unig.                                  


Adroddiad ‘Cefnogi Awdurdodau Lleol gyda datgarboneiddio allyriadau o nwyddau wedi eu caffael a gwasanaethau’

 

Mae’r adroddiad yn amlinellu cyfres o gasgliadau ac argymhellion lefel uchel ar gyfer camau gweithredu byrdymor a hirdymor gan Lywodraeth Cymru, CLlLC, ac Awdurdodau Lleol i fwrw ymlaen â datgarboneiddio drwy gaffael. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu a’u datblygu fel rhan o waith Rhaglen Gefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad, ac yr ydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r adroddiad hwn a’i argymhellion i wneud hynny.


Arweiniad Byr ar lunio Cynllun Lleihau Carbon

 

Er mwyn cynorthwyo cwmnïau/BBaCH (SMEs) gyda llunio Cynllun Lleihau Carbon, yr ydym wedi creu arweiniad byr sy’n cynnwys dolenni i hyfforddiant, templedi, ac arweiniad ar lunio cynllun a chyfrifo ôl troed carbon o weithgareddau.


 

https://www.wlga.cymru/local-authority-sustainable-procurement-toolkit