CLILC

 

Gweithredu pellach i warchod y bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf o goronafeirws

  • RSS
Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2020 Categorïau: Gwasanaethau diogelu’r cyhoedd Newyddion
Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2020

Datganiad ar y cyd gan CLlLC, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu’n uniongyrchol â phobl yng Nghymru sydd wedi’u datgan fel rhai sy’n wynebu risg uchel iawn o salwch difrifol oherwydd coronafeirws.

Bydd pob person yn cael cyngor penodol ar sut orau i warchod eu hunain, yn seiliedig ar eu hanes meddygol a’u hanghenion iechyd.   

Bydd y llythyrau, sydd wrthi’n cael eu hanfon, yn cynnwys cyngor clir i aros gartref am 12 wythnos, ac yn rhestru’r gefnogaeth feddygol, ymarferol ac emosiynol sydd ar gael.

Mae awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i sicrhau y bydd y rhai sy’n derbyn y llythyr ac sydd angen cefnogaeth yn gallu ei chael ar lefel leol.

Bydd y cyfathrebu uniongyrchol hwn yn sicrhau pobl y bydd eu hanghenion meddygol parhaus yn parhau i gael eu diwallu, ac yn cynnwys gwybodaeth am sut gall pobl reoli eu cyflwr tra’n aros gartref ac osgoi cyswllt agos gydag eraill, oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol, gan gynnwys cyngor am ddosbarthu eu presgripsiynau iddynt a chael cefnogaeth ar gyfer byw o ddydd i ddydd.              

Mae pobl yng Nghymru sy’n byw gyda chyflyrau hir-dymor penodol mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau difrifol os byddant yn cael y feirws. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y rhai sydd wedi derbyn trawsblaniadau organau, a’r rhai sy’n byw gyda ffibrosis systig neu ganserau penodol, fel canser y gwaed neu fêr yr esgyrn. Mae rhai – ond nid pawb – sy’n derbyn mathau penodol o driniaethau cyffuriau, gan gynnwys y rhai sy’n amharu ar y system imiwnedd hefyd yn y grŵp hwn. 

 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Mae hwn yn gyfnod eithriadol bryderus i bobl sydd â phroblemau iechyd.

Rydyn ni’n cysylltu’n uniongyrchol â phawb yng Nghymru sy’n wynebu risg ddifrifol o salwch o goronafeirws, er mwyn darparu cyngor clir a theilwredig  i chi ar sut y gallwch warchod eich hunain orau. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cadw chi’n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Ond mae angen eich help arnom.

Os byddwch yn derbyn llythyr, mae wir yn bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddyd i gadw’n ddiogel ac yn iach. Plîs arhoswch gartref a pheidiwch â gwahodd unrhyw un i’ch cartref, oni bai fod hyn yn gwbl hanfodol, er enghraifft, os ydych chi’n derbyn gofal.

Mae cefnogaeth y cyhoedd i’r ymdrech hon yn hanfodol. Mae wir yn bwysig bod pawb yn cadw at y cyfarwyddyd ynghylch aros gartref a chadw pellter cymdeithasol, hyd yn oed os ydynt yn heini ac yn iach fel arfer a ddim yn teimlo mewn perygl. Mae gan filoedd o bobl yng Nghymru broblemau iechyd difrifol sy’n gwneud coronafeirws yn beryglus iawn iddynt, ac felly mae’n rhaid i bawb wneud eu rhan er mwyn atal lledaeniad y feirws.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer o bobl yn poeni ar hyn o bryd, ar adeg mor ansicr. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod yr unigolion hynny sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yn cael eu diogelu a’u bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol a phartneriaid eraill yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod pecyn cymorth cynhwysfawr ar gael i’r unigolion hyn yn ystod y cyfnod hwn. Ond, er mwyn i ni allu gwneud hynny mae’n bwysig bod pob un sy’n cael y llythyr yn cymryd y cyngor o ddifrif.

Mae’n rhaid i bob un ohonon ni chwarae ein rhan. Drwy ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, ac ufuddhau i’r mesurau a gyflwynodd Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru neithiwr, gallwn ni ddiogelu ein hunain a phawb arall yn y ffordd orau posibl rhag y feirws. Mae hi wir mor syml â hynny: ahoswch gartref, achubwch fywydau.

 

Dywedodd Ruth Marks, prif weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Mae CLlLC, mewn cydweithrediad â CGGC, wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer Canolfannau Cyswllt Awdurdodau Lleol a fydd yn galluogi pobl dros 70 oed ac yn y categorïau risg sydd wedi derbyn y llythyr i gael eu cyfeirio at fudiadau trydydd sector allweddol er mwyn cael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth i’w galluogi nhw i aros gartref yn ddiogel. 

Y cyfarwyddyd i bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf yw: 

  • Osgowch yn llwyr gyswllt â rhywun sy’n dangos symptomau coronafeirws (COVID-19). Mae’r symptomau hyn yn cynnwys tymheredd uchel a/neu beswch newydd a pharhaus.  
  • Peidiwch â gadael eich tŷ am o leiaf 12 wythnos oni bai ei fod yn gwbl hanofodol.
  • Peidiwch â mynd i unrhyw gyfarfodydd. Mae hyn yn cynnwys ffrindiau a theuluoedd sy’n cyfarfod mewn mannau preifat e.e. cartrefi teuluoedd, priodasau, partïon a gwasanaethau crefyddol.
  • Peidiwch â mynd i siopa, hamddena neu deithio ac, wrth drefnu i fwyd neu feddyginiaeth gael eu dosbarthu, dylai’r rhain gael eu gadael ar garreg y drws i leihau unrhyw gyswllt.
  • Cadwch mewn cysylltiad gan ddefnyddio technoleg o bell fel ffôn, rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol.  
  • Cofiwch ddefnyddio gwasanaethau ffôn neu ar-lein i gysylltu â’ch meddygfa neu wasanaethau hanfodol eraill fel a phan fo angen.

https://www.wlga.cymru/further-action-to-protect-people-at-highest-risk-from-coronavirus