CLILC

 

Ein Nod

Llais cryf i’r cynghorau ynglŷn â materion Ewrop

Ewrop

"Rhaid i fyd llywodraeth leol gyflawni rôl allweddol wrth bennu perthynas newydd Cymru ag Undeb Ewrop"

Bydd penderfyniad pobl y Deyrnas Gyfunol i adael Undeb Ewrop yn effeithio’n fawr ar gynghorau lleol Cymru.

 

Bydd yn effeithio ar ein ffordd o roi gwasanaethau i gymunedau ac yn newid ein ffordd o ariannu rhai o brosiectau buddsoddi ac adfywio mwyaf Cymru.

 

Ers 2003, mae WLGA wedi ceisio dylanwadu ar ddeddfau Undeb Ewrop er lles cymunedau Cymru.  Mae’r gwaith hwnnw’n bwysicach fyth, bellach.

 

Nod y WLGA yw gofalu bod maes llywodraeth leol yn cyflawni rôl allweddol yn ystod y trafodaethau a fydd yn ailbennu perthynas Cymru ag Undeb Ewrop.

 

Rydyn ni am fanteisio i’r eithaf ar arian yr undeb yn ystod y cyfnod cyn gadael, gan ofalu y bydd unrhyw brosiectau cyfredol ac arfaethedig yn parhau i fod o les i’n cymunedau ni.

 

Ar y cyd ag amrywiaeth helaeth o bartneriaid, fe fyddwn ni’n gwneud cymaint ag y bo modd i greu’r cysylltiadau hanfodol y bydd angen i’r cynghorau lleol a Chymru gyfan eu defnyddio i lwyddo y tu allan i Undeb Ewrop.

 

Gan fod deddfau Undeb Ewrop wrth wraidd llawer o waith y cynghorau leol, byddwn ni’n ceisio gofalu na fydd y Deyrnas Gyfunol yn diddymu’r rhai sydd o les i bobl Cymru.

 

Gorchwyl mawr a chymhleth fydd gadael Undeb Ewrop a llunio deddfau, cytundebau masnachu a threfniadau ariannu newydd i Gymru. Bydd angen nifer o flynyddoedd i’w baratoi a’i gyflawni.

 

Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y WLGA yn parhau i ymgyrchu’n gryf i hyrwyddo anghenion cynghorau lleol a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.


Dolen:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym

https://www.wlga.cymru/europe