CLILC

 

Cynghorau i fabwysiadu dull gyffredin i sicrhau y gall canolfannau ailgylchu gael eu gweithredu’n ddiogel cyn ystyried ail-agor

  • RSS
Dydd Gwener, 08 Mai 2020 Categorïau: Newyddion Yr amgylchedd, gwastraff a bioamrywiaeth
Dydd Gwener, 08 Mai 2020

Mae cynghorau yng Nghymru wedi cytuno y byddant angen hyder mewn lefelau staffio digonol, cydymffurfiant iechyd a diogelwch, ac ymgynghori gydag Undebau Llafur, cyn gallu ystyried ail-agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau) mewn ardaloedd lleol.

Ar ddydd Gwener, cadarnhaodd y Prif Weinidog gynlluniau i newid rheoliadau i ganiatáu teithio i safleoedd ailgylchu pan y cânt eu hail-agor yn y dyfodol. Tra bod y newid yma’n galluogi cynghorau i ail-agor safleoedd, mae nhw’n annhebygol o wneud hynny’n syth gan y bydd pob awdurdod yn penderfynu yn unigol os yw hi’n ddiogel i wneud hynny yn unol â’r sefyllfa yn eu hardal.

Bydd cynghorau yn hysbysu trigolion o unrhyw gynlluniau ac amserlen ar gyfer ail-agor ymhob ardal leol.

Ers cyflwyno’r cyfyngiadau, mae canolfannau ailgylchu wedi parhau i fod dan glo i leihau teithio diangen. Mae cynghorau yn dal i adolygu’r sefyllfa o hyd i hybu trigolion i gydymffurfio â’r mesurau.

Mae pob cyngor wedi cytuno ar set o griteria y bydd yn rhaid eu cwrdd cyn y gallant ystyried ail-agor unrhyw safleoedd ailgylchu yn ddiogel. Bydd yn rhaid i gynghorau fod yn fodlon:

  • Bod lefel briodol o staff ar gael i weithredu’r cyfleusterau.
  • Y gallai’r safleoedd gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch llym, gan gynnwys glanweithdra, ymbellhau cymdeithasol â’r goblygiadau o ran rheolaeth traffig
  • Bod Undebau Llafur yn cael eu ymgynghori i gytuno’r sail ar gyfer ailagor a gweithredu’r Canolfannau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Ers cychwyn y cyfyngiadau, mae neges y llywodraeth wedi bod yn glir y dylwn ni i gyd aros adref, ar wahân i resymau cyfyngedig iawn.

“Tra bod y Prif Weinidog heddiw wedi cadarnhau cynlluniau i ganiatáu siwrneiau i ganolfannau ailgylchu, awdurdodau lleol unigol fydd yn gyfrifol am benderfynu pryd y bydd safleoedd yn gallu agor mewn ardaloedd lleol.

“Mae cynghorau yn gweithio ynghyd, gyda’r Heddlu, Llywodraeth Cymru â’r Undebau Llafur, i archwilio sut i deilwra cyfleusterau ar gyfer cydymffurfio gyda rheolau cyfredol o ran Coronafeirws.

“Diogelwch y cyhoedd a staff yw ein blaenoriaeth bennaf. Er y gwyddom bod rhai wedi profi anghyfleustra, rydyn ni’n benderfynol i sicrhau y bydd safleoedd ond yn ailagor pan mae’n ddiogel gwneud hynny, a phan y gall drigolion deimlo’n hyderus i’w defnyddio nhw eto.”

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

https://www.wlga.cymru/councils-to-adopt-common-approach-to-ensure-recycling-centres-can-be-operated-safely-before-considering-reopening