CLILC

 

Cytuno ar ddull Cymru gyfan i gadw ysgolion ar agor cyn y Nadolig

  • RSS
Dydd Gwener, 04 Rhagfyr 2020 Categorïau: Newyddion
Dydd Gwener, 04 Rhagfyr 2020

Cytunwyd ar ddull cyffredin gan Lywodraeth Cymru a CLlLC ar gyfer trefniadau mewn ysgolion ar ddiwedd tymor y Nadolig, yn dilyn trafodaeth estynedig â’r bwriad i sicrhau darpariaeth sydd mor gyson â phosib ledled Cymru o dan amgylchiadau sy’n parhau i fod yn heriol.

 

Mae parhau addysg i blant a phobl ifanc gan amharu cyn lleied â phosib arnyn nhw yn dal i fod yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Bydd dysgu yn y dosbarth yn parhau hyd ddiwedd y tymor.  Fel sydd eisoes wedi digwydd trwy gydol y tymor, bydd symud i ddysgu o bell ond yn digwydd os yw’n gymesur â nifer achosion ac effaith y feirws o fewn yr ardal leol.

 

Dywedodd Llefarydd CLlLC:

 

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd dros ben ac mae’r amodau yn parhau i fod yn heriol i ni i gyd. O ganlyniad i ymdrechion aruthrol athrawon, staff ysgolion, plant a phobl ifanc wrth gadw eu hunain, ei gilydd a’u cymunedau yn ddiogel, mae ein hysgolion wedi gallu aros ar agor yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

 

“Hoffai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru weld dull cyson, synhwyrol ac eglur yn cael ei gymryd ar draws Cymru. Dwi’n falch ein bod wedi gallu cytuno ar gynllun Cymru gyfan, sydd hefyd yn cymryd i ystyriaeth amgylchiadau lleol.”

 

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb ynghlwm a’r system addysg am eu hamynedd a’u dyfalgarwch trwy gydol y flwyddyn neilltuol hon. Er nad yw’r cyfnod anodd hwn ddim drosodd eto, rydyn ni’n cychwyn gweld llewyrch o olau ar ddiwedd y twnnel. Yn y cyfamser, rhaid i ni i gyd barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw’n gilydd yn saff yn yr ysgol ac adref.”

 

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru:

 

 “Ein blaenoriaeth yw dal i sicrhau bod addysg yn parhau ar gyfer holl blant a phobl ifanc gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl.

 

 “Mae Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn disgwyl i ysgolion weithredu yn ôl yr arfer hyd at ddiwrnod olaf y tymor, ond wrth gwrs maent yn cydnabod y gall symud i ddysgu o bell fod yn ddewis amgen am resymau iechyd a diogelwch cyhoeddus lleol eithriadol.

 

 “Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau rheolaidd gydag awdurdodau lleol ac undebau ar y materion hyn fel yr ydym wedi gwneud trwy gydol y pandemig.”

 

I gael gwybodaeth a chanllawiau cefnogi er mwyn cynorthwyo ysgolion a darparwyr eraill i gadw dysgwyr yn ddiogel, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

 

https://llyw.cymru/cadw-dysgwyr-yn-ddiogel-mewn-addysg

 

-DIWEDD-

https://www.wlga.cymru/all-wales-approach-agreed-to-keep-schools-open-in-run-up-to-christmas-