CLILC

 

Ymateb CLlLC i Gyhoeddiad Cyllid Llywodraeth Cymru Heddiw

  • RSS
Dydd Mawrth, 17 Hydref 2023 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Mawrth, 17 Hydref 2023

~/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement

Nid yw’r rhain yn benderfyniadau hawdd, a byddem yn cefnogi’r Gweinidog i ddiogelu cyllid craidd llywodraeth leol yn 2023-24. Rydym hefyd yn cefnogi’r egwyddorion sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymhwyso i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, swyddi a’r rhai mwyaf agored i niwed. Fel CLlLC ysgrifennasom at y Trysorlys yn ôl yn yr haf yn dadlau’r achos dros gyllid ychwanegol yng Nghymru ac am fwy o hyblygrwydd yn y ffordd y caiff Cymru ei hariannu.

 

Rydym yn parhau i bryderu am y rhaglenni na fyddant yn mynd rhagddynt a'r effaith ar gyllidebau'r flwyddyn nesaf. Mae cyllidebau llywodraeth leol yn wynebu pwysau y flwyddyn nesaf o £720m, sef tua 10% o'n gwariant net. Ni fydd y cyllid sydd ar gael yn cwmpasu’r cyfan ac rydym yn wynebu bwlch ariannu sylweddol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i wasanaethau lleol.

 

DIWEDD –

http://www.wlga.cymru/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement