CLILC

 

Datganiad CLlLC- canlyniadau arholiadau

  • RSS
Dydd Llun, 17 Awst 2020 Categorïau: Newyddion
Dydd Llun, 17 Awst 2020

 

Mae CLlLC yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog yn cadarnhau y bydd canlyniadau arholiadau eleni yn cael eu dyfarnu ar sail asesiadau athrawon. Diolchwn i'r Gweinidog am wrando ar ein galwadau ni a rhai eraill ac, yn anad dim, am lais y dysgwyr. Dyma'r ymagwedd decaf, mae'n rhoi barn broffesiynol athrawon ac yn sicrhau nad yw myfyrwyr Cymru dan anfantais o'u cymharu â myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n bwysig felly bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn y dull hwn o ystyried bod nifer o ysgolion a myfyrwyr Cymru yn astudio pynciau drwy system arholiadau Lloegr. 

 

Bydd CLlLC yn bwydo i mewn i sesiwn Pwyllgor y Senedd yfory ac mae'n bwysig bod y cyngor a roddir i'r Gweinidog yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi'r canlyniadau yn cael ei graffu, a bod Llywodraeth Cymru yn adolygu Cymwysterau Cymru ar fyrder.

http://www.wlga.cymru/wlga-statement--examination-results