CLILC

 

Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru

  • RSS
  • Add To My MSN
  • Add To Windows Live
  • Add To My Yahoo
  • Add To Google

Categorïau

Dydd Mercher, 19 Ionawr 2022 09:29:00

Comisiynodd CLlLC yr adolygiad hwn ar sefyllfa bresennol Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o’u Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad i ddarparu gwybodaeth i’r unigolion hynny sy’n gweithio yn y maes polisi hwn; i nodi a rhannu ymarfer; a ffyrdd o gefnogi swyddogion ac aelodau sy’n gweithio yn y maes hwn.

 

Bwriad yr ymchwil yw llywio dull llywodraeth leol o ran symud tuag at y targed Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus a’r targed Carbon Sero Net 2050 i Gymru. Mae’r ymchwil wedi cael ei lunio i lywio gwaith ymarferwyr datgarboneiddio, uwch reolwyr, aelodau arweiniol a staff allweddol o fewn awdurdodau lleol sydd angen bod yn rhan o’r rhaglen ddatgarboneiddio. Bydd y gwaith hefyd yn llywio gwaith cenedlaethol Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol.

 

Mae’r gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar yr agweddau canlynol o gynnydd yn y gwaith Cynllunio Datgarboneiddio, cynhyrchu, cyflawni, cwmpas ac uchelgais, trefniadau llywodraethu, natur yr ymyriadau yn y cynlluniau, mesur llinell sylfaen allyriadau nwyon tŷ gwydr ac anghenion cymorth. Roedd yr ymchwil yn defnyddio tystiolaeth ddogfennol a safbwyntiau ymarferwyr awdurdod lleol arbenigol i lywio’r canfyddiadau.

 

Roedd pob un o’r 22 awdurdod yn rhan o’r ymchwil hwn gyda dros 50 o unigolion yn rhan o drafodaethau unigol, trafodaethau grŵp a gweithdai rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021.

http://www.wlga.cymru/welsh-local-government-decarbonisation-planning-review