Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn datblygu strategaeth i ad-drefnu’r gofod swyddfa presennol a staff yn teithio i’r gwaith drwy’r prosiect “Dyfodol Gweithio mewn Swyddfeydd” – prosiect ar y cyd rhwng adrannau Adnoddau Dynol a Rheoli Asedau y Cyngor a’r gweithlu.