Dywedodd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a'r Llefarydd ar Drafnidiaeth:
"Rydym yn croesawu'r ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymgysylltu â chynghorau i adolygu'r canllawiau gwreiddiol a galluogi cynghorau i ailedrych ar rai rhannau o lwybrau strategol, gan gynnwys llwybrau bysiau.
"Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd i gynghorau ac mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Bydd angen lefel uchel o hyder, os a lle codir y terfyn yn ôl i 30mya, na fydd yn arwain at yr union risgiau y cafodd y polisi eu llunio i liniaru."