Mae mwy o fuddsoddiad, cydnabyddiaeth a chefnogaeth i wasanaethau gofal cymdeithasol yn hanfodol, meddai cynghorau Cymru yn sesiwn dystiolaeth ddoe yn Ymchwiliad COVID-19 y DU.
Wrth roi tystiolaeth i fodiwl gofal cymdeithasol yr Ymchwiliad, amlinellodd Dr Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC, yr heriau a wynebodd y sector cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig – a'r gwersi y mae'n rhaid eu dysgu.
Tynnodd sylw at fregusrwydd hirsefydlog y sector, gyda phwysau'r gweithlu parhaus ynghylch recriwtio a cadw gweithwyr, a morâl, a rhybuddiodd, er gwaethaf rôl rheng flaen hanfodol gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig, ei fod yn cael ei drin yn rhy aml fel eilradd i'r GIG.
Dywedodd Dr Llewelyn wrth yr Ymchwiliad fod staff gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gweithio o dan bwysau dwys, gan ysgwyddo beichiau emosiynol, corfforol a seicolegol. Roedden nhw'n wynebu mwy o lwyth gwaith, newidiadau aml i ganllawiau, risgiau diogelwch, a mynediad cyfyngedig at offer amddiffynnol personol, profion a brechu yng nghyfnodau cynnar y pandemig.
Mae CLlLC yn galw am drin gofal cymdeithasol fel partner cyfartal mewn system wirioneddol integredig. Mae'n dweud bod angen i'r sector:
- Mwy o fuddsoddiad mewn atal a gofal yn y gymuned
- Cydraddoldeb parch a gwobrwyo gyda'r GIG
- Cefnogaeth barhaus i hyfforddiant rheoli heintiau
- Aliniad cliriach rhwng ymatebion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
- Canllawiau wedi'u diweddaru a chynllunio pandemig yn seiliedig ar brofiad byw
Dywedodd Dr Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:
"Mae dysgu gwersi profiad y pandemig yn bwysig ond mae hyn hefyd yn ymwneud â'r ffyrdd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi fel gwasanaeth ac fel proffesiwn. O fewn y sector, mae angen gwell dealltwriaeth o reoli ac atal heintiau, ond o fewn fframwaith ehangach sy'n edrych ar recriwtio a cadw gweithwyr, hyfforddiant, cymwysterau, datblygiad proffesiynol parhaus a dyrchafu'r sector yn ei gyfanrwydd."
"Po fwyaf o ymgysylltiad sydd â phobl sy'n gweithio ar yr ochr weithredol a chyflenwi, y mwyaf effeithiol y mae'n debygol o fod. Po gynharaf y bydd llywodraeth leol yn ymwneud â datblygu canllawiau, y mwyaf effeithiol fydd hi."