Cyflogaeth a Gefnogir Sir Benfro - Rhaglen i Bawb (CS Penfro)

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022 12:14:00

Yn 2021, cafodd Cyngor Sir Penfro eu rhoi ar y rhestr fer am wobr ‘Amrywiaeth a Chynhwysiant’ y LGC am eu rhaglen Cyflogaeth a Gefnogir.  Dechreuodd y rhaglen yn ôl yn 2018 pan ddywedodd pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth wrth y Cyngor bod arnynt eisiau mwy o gyfleoedd am gyflogaeth â thâl.  Roedd hyn fel rhan o broses ymgysylltu ac ymgynghori cynhwysfawr i ddatblygu Strategaeth Anableddau Dysgu. Y cyfle cyflogaeth cyntaf oedd cyflogi Cefnogwyr Anableddau Dysgu i weithio gyda swyddogion yng Nghyngor Sir Penfro a phartneriaid y trydydd sector i ddatblygu’r camau gweithredu ag amlinellwyd yn y strategaeth a’u rhoi ar waith.  Mae’r rhaglen yn arloesol nid oherwydd bod yr elfennau unigol yn newydd neu heb eu profi o’r blaen, ond oherwydd ei fod wedi dod a nifer o ddulliau sydd wedi’u profi ynghyd i greu rhaglen strategol sy’n alinio amcanion ar draws nifer o agendâu.   Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol a phartneriaid y trydydd sector allweddol.   Mae’r rhaglen yn gydran allweddol o gynllun gweithredu cydraddoldeb y Cyngor, gan yrru cynnydd mewn cyflogaeth anabledd ar draws yr awdurdod lleol nid yn unig o fewn y rhaglen ei hun.   O gyflogi 25 unigolyn ag anabledd yn 2017, bellach mae Cyngor Sir Penfro yn cyflogi dros 65 unigolyn ag anabledd yn ei raglen cyflogaeth a gefnogir.

 

Ar y Rhestr Fer - Gwobrau LGC 2021

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30