Sefydlwyd Galw Gofal gan Dîm Lles Cymunedol Gofal Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu cefnogaeth yn y cartref trwy systemau ffôn i wella ansawdd bywyd ac annibyniaeth pobl, Yn ystod y pandemig ymestynnwyd gwasanaethau Galw Gofal i gynnwys y rhai yn y gymuned a oedd yn gwarchod eu hunain. Er mwyn ymateb yn gyflym i’r angen cynyddol am gefnogaeth yn ystod y pandemig, bu i Galw Gofal ddatblygu partneriaethau oedd yn bodoli gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Age Connects Canol Gogledd Cymru a Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy . O Fawrth i Awst 2020, gwnaed 10,789 o alwadau ffôn dyddiol gyda staff yn ymateb i amrywiaeth o ymholiadau o gymorth gyda dosbarthu bwyd a phresgripsiynau i gyfeirio at Dimau Lles Cymunedol i gael cefnogaeth i fynd ar-lein.