CLILC

 

Croesawu cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol

  • RSS
Dydd Mawrth, 14 Medi 2021 Categorïau: Newyddion
Dydd Mawrth, 14 Medi 2021

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyllid o £40m ar gyfer gofal cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr) Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Rydyn ni’n croesawu’r cyllid ychwanegol i gefnogi adferiad gwasanaethau cymdeithasol mewn ardaloedd awdurdodau lleol ar draws Cymru. Mae’r pandemig wedi dangos yn glir gwir werth gofal cymdeithasol, a’r rôl hollbwysig mae’n ei chwarae yn ein cymunedau. Trwy gydol yr argyfwng, mae gofal cymdeithasol wedi bod ar y rheng flaen a chynghorau wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r rhai sydd angen gofal neu gefnogaeth, er gwaethaf y pwyseddau dwys o fewn y system dros y 18 mis diwethaf. Mae’r sgil-effeithiau o ddelio â’r pandemig yn anferth a bydd y cyllid ychwanegol yma yn cefnogi awdurdodau lleol wrth iddyn nhw barhau i edrych ar sut y gallan nhw adfer, mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a chyfrannu tuag at system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu cwrdd ag anghenion y dyfodol.”

“Tra bod un llygad ar adfer, rydyn ni’n parhau i brofi pwyseddau sylweddol a chynyddol ynghyd a chynnydd yn y galw ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hollbwysig, gan ddod a llawer o wasanaethau yn agos i argyfwng.”

“Hwn yw’r cyfnod mwyaf tyngedfennol erioed i ganfod ateb hir-dymor i sut i gefnogi’r holl bobl hynny sy’n galw ar ac yn gweithio yn y gwasanaethau allweddol yma. Mae’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth y DU yn gyfle aruthrol i ddiwygio ein system gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i helpu i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau brys sy’n ein wynebu ni. Mae’n hollbwysig ein bod ni i gyd – Llywodraeth Cymru, cynghorau, sector gofal cymdeithasol, y GIG, a phobl gyda phrofiadau byw dyddiol – yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu system gofal a chefnogaeth sy’n addas i’r dyfodol.”

 

-DIWEDD-

 

 

http://www.wlga.cymru/extra-funding-for-social-care-welcomed