Mae arweinwyr cynghorau yn galw ar drigolion i lynnu at fesurau llym gan y llywodraeth ar ein bywydau dyddiol, er mwyn ymateb i bandemig Coroonafeirws.
Mae gwasanaethau fel iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu llethu gan y pwyseddau digynsail sydd arnyn nhw o ganlyniad i ymlediad COVID-19.
Bydd timau gorfodi awdurdodau lleol yn chwarae rôl hanfodol yn gweithio gyda’r heddlu i sicrhau bod y mesurau yn cael eu glynnu atyn nhw gan bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
“Dros y dyddiau diwethaf, mae trigolion wedi gorfod gwneud newidiadau mawr i’w bywydau bob dydd er mwyn arafu ymlediad y feirws, arbed gwasanaethau hollbwysig, ac achub bywydau. Fel i’r Prif Weinidog wneud yn glir neithiwr, mae’r amser wedi dod i ni i gyd wneud mwy.”
“Mae staff cyngor allweddol yn gweithio’n ddiflino gan chwarae rôl ganolog yn yr ymdrechion enfawr i ymateb, a hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith hyd yma ac i ddod dros y misoedd nesaf. Mae’r coronafeirws yn fygythiad gwirioneddol nid yn unig i ni fel trigolion, ond hefyd i allu gwasanaethau megis iechyd a gofal cymdeithasol i barhau i fod yno i ni pan ydyn ni eu hangen nhw fwyaf.
“Os oes unrhyw un yng Nghymru sy’n dal i feddwl eu bod nhw am ba bynnag reswm yn cael eu heithro rhag ysgwyddo’r cyfrifoldeb yma, hoffwn i a fy nghyd arweinwyr cyngor ddweud wrthyn nhw: meddyliwch eto. Ein cyfrifoldeb ni i gyd – pob un person yn y wlad heb eithriad – yw i amddiffyn ein hunain, ein gilydd, ein teuluoedd a’n cymunedau rhag niwed.
“Bydd timau gorfodi cyngor yn gweithio yn agos gyda’r heddlu ac yn barod i ddefnyddio’r holl bwerau gorfodi sydd ar gael iddyn nhw i sicrhau bod pawb ymhob rhan o Gymru yn cydymffurfio â’r gorchmynion.
“Dyma foment hanesyddol i’n cymunedau. Bydd ein plant a’n wyrion a wyresau yn gofyn i ni am y cyfnod hwn mewn blynyddoedd i ddod. Peidiwch bod y person sy’n gorfod dweud wrthyn nhw ‘Dwi’n difaru na wnes i bethau’n wahanol’.”
“Nid yn aml mewn sefyllfaoedd o argyfwng mae cyfle i bob person ddod a’r sefyllfa i ben – ond mae’r cyfle hwnnw gennym ni heddiw: arhoswch adref, achubwch fywydau.”
-DIWEDD-