CLILC

 

Arweinwyr cyngor yn galw am “rwyd diogelwch” ar fyrder i gymryd lle cronfeydd a safonau UE mewn cymunedau gwledig

  • RSS
Dydd Llun, 03 Awst 2020
Dydd Llun, 03 Awst 2020

Mae arweinwyr cynghorau ardaloedd gwledig Cymru wedi galw ar lywodraeth y DU i roi cynlluniau ar waith ar gyfer masnach, cyllid a deddfwriaeth i ddisodli cyfreithiau presennol pan y daw’r cyfnod o newid i ben.

Bydd yn rhaid i gynlluniau newydd gymryd lle trefniadau presennol yn y DU, gydag ond pum mis i fynd hyd ddiwedd cyfnod pontio Brexit. Mae’n hollbwysig bod y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno yn diogelu bywoliaethau pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig.

Mewn cyfarfod o Fforwm Gwledig CLlLC yr wythnos diwethaf, mynegodd arweinwyr cyngor bryder gwirioneddol am y posibilrwydd o ddod i ddiwedd y cyfnod pontio heb fargen gyda’r UE, a’r goblygiadau i rai o sectorau fwyaf amlwg ardaloedd gwledig, gan gynnwys ffermio ac amaeth, bwyd  a diod, a thwristiaeth a lletygarwch.

Hefyd, fe fydd angen disodli rheoliadau sydd ar hyn o bryd yn cael eu gosod ar lefel UE mewn meysydd megis llesiant anifeiliaid, iechyd amgylcheddol a safonau masnach, a fydd yn cael effaith sylweddol ar gymunedau gwledig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Gwynedd), Cyd Gadeirydd Fforwm Wledig CLlLC:

“Gydag ond pum mis i fynd tan i’r cyfnod pontio ddod i ben, does dim llawer o amser ar ôl i Lywodraeth y DU amlinellu i gymunedau gwledig sut y bydd eu buddiannau’n cael eu hamddiffyn wrth i ni adael yr UE. Mae angen sicrwydd ar ein cymunedau ni y bydd angen rhwyd diogelwch mewn lle o ran cyllid, polisi, deddfwriaeth a rheoliadau, i amddiffyn cymunedau gwledig rhag y newid trawsnewidiol wrth i ni adael yr UE.

“Mae ardaloedd gwledig wedi buddio o’r trefniadau sydd wedi bod mewn grym dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae nhw wedi galluogi ein ffermwyr ni i allforio eu cynnyrch heb unrhyw dollau neu wiriadau cymhleth, ein busnesau a chymunedau i fuddio o amryw o raglenni cyllid, ac ein trigolion i fuddio o safonau uchel i ddiofelu bwyd a chwsmeriaid. Mae’n hollbwysig bod bargen fasnach rydd gynhwysfawr yn cael ei tharo gyda’r UE, fel y gall ein ffermwyr a busnesau barhau i fuddio o fynediad ddi-ffrithiant i farchnad yr UE.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris (Powys), Cyd Gadeirydd Fforwm Wledig CLlLC:

“Mewn cyfnod ble’r ydyn ni i gyd hefyd yn ymrafael i ddeall yn llawn effeithiau pellgyrhaeddol yr argyfwng presennol ar fywyd gwledig yn y tymor hir, nawr yn fwy nag erioed, mae trigolion mewn cymunedau gwledig angen cefnogaeth. Rydyn ni eisiau gweld cymunedau gwledig llewyrchus, ffyniannus, cysylltiedig ar hyd a lled Cymru. Ond gallwn ni ond gyflawni hynny trwy fuddsoddi mewn gweledigaeth feiddgar, hir dymor i Gymru wledig, a dealltwriaeth glir ar bob lefel o’u anghenion unigryw.

“Dyna pam ein bod ni’n awyddus i symud gwaith ymlaen i ddatblygu gweledigaeth hir dymor i Gymru wledig gyda phartneriaid allweddol yn y cyfnod allweddol yma i’n cymunedau a busnesau gwledig i lywio Cynllun Adfer Gwledig i Gymru. Rydyn ni hefyd yn datblygu ein gofynion allweddol i lywodraethau DU a Chymru yn nhermau’r gefnogaeth sydd ei hangen ar unwaith i gynnal a magu’r gwytnwch sydd ei angen yn ein cymunedau gwledig i ddelio â goblygiadau’r posibilrwydd o adael heb fargen, yr argyfwng newid hinsawdd a goblygiadau parhaus yr argyfwng COVID-19 i’n cymunedau gwledig.”

 

-DIWEDD-

 

 

 

http://www.wlga.cymru/council-leaders-call-for-urgent-rural-safety-net