Mae cynghorau Cymru yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus ymysg cynnydd mewn sgamiau yn gysylltiedig â COVID-19.
Pobl hŷn a phobl fregus sy’n hunan-ynysu sy’n cael eu hystyried â’r mwyaf o risg o gael eu targedu gan dwyllwyr yn honni i gynnig help neu gefnogaeth. Mae rhai trigolion wedi cael eu targedu ar garreg y drws gan gynigion ffug i helpu gyda siopa bwyd, tra bod adroddiadau hefyd o gynllwyniau mwy cymhleth gan gynnwys:
- Cwmniau yn cynnig ad-daliadau gwyliau ffug i bobl sydd wedi gorfod canslo eu tripiau
- Sgamiau ebost sy’n twyllo pobl i agor atodiadau ebost maleisus, sy’n rhoi pobl mewn perygl o ladrad hunaniaeth, gan gynnwys manylion personol, cyfrineiriau, cysylltiadau a manylion banc
- Glanyddion, mygydau a phecynnau swabio COVID-19 ffug, sy’n aml yn beryglus, yn cael eu gwerthu ar-lein ac wrth y drws.
Mae adroddiadau hefyd o sgamiau galwadau diwahoddiad a benthycwyr arian didrwydded yn cymryd mantais o’r cynnydd mewn ansicrwydd ariannol.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance (Powys), Llefarydd CLlLC dros Ddiogelwch Cymunedol:
“Ar adeg pan fo llawer o’n trigolion yn barod ar eu pen eu hunain, yn bryderus ac yn ofnus, mae’n ffiaidd i weld unigolion diegwyddor yn targedu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau ni.
“Mae cynlluniau mewn lle gan gynghorau a phartneriaid i helpu’r rhai hynny sydd fwyaf angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod anodd yma. Cynghorir trigolion i fod yn wyliadwrus, ac i siarad â theulu neu ffrindiau cyn ymateb. Rydyn ni’n annog trigolion i adrodd unrhyw weithgareddau amheus i’w awdurdod lleol, yr Heddlu neu Action Fraud.”
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig (Gwynedd), Llefarydd CLlLC dros Wasanaethau Rheolaethol:
“Cadw pobl yn ddiogel ac yn iach yw ein blaenoriaeth bennnaf, ac mae timau Safonau Masnach a’r Heddlu yn gweithio’n agos mewn partneriaeth i amddiffyn y cyhoedd rhag cael eu hamlygu i’r fath ymddygiad diegwyddor.
“Mae cynghorau wedi ymrwymo’n llwyr i wneud popeth posib, gan ddefnyddio’r holl bwerau gorfodi sydd ar gael iddyn nhw, i sicrhau bod y troseddwyr sy’n gyfrifol yn wynebu’r cosbau llymaf bosibl.”
-DIWEDD-
NODIADAU I OLYGYDDION
Gall unrhyw un sydd wedi cael eu targedu gan sgam adrodd hyn ar-lein ar https://www.actionfraud.police.uk/welsh neu trwy alw 0300 123 2040.
Am gyngor neu wybodaeth ar sut i wirio os y gall rhywbeth fod yn sgam, gall bobl gysylltu a Chyngor ar Bopeth ar-lein ar: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/consumer/scams/check-if-something-might-be-a-scam/