CLILC

 

Setliad gorau ers degawdau a hwb i gymunedau a gwasanaethau lleol, meddai CLlLC

  • RSS
Dydd Mawrth, 21 Rhagfyr 2021 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Mawrth, 21 Rhagfyr 2021

Mae llywodraeth leol wedi croesawu un o’r setliadau cyllidebol gorau ers cychwyn datganoli, gan gydnabod yr heriau sylweddol sy’n parhau i fod ar gyllidebau cyngor.

Bydd cynghorau yn gweld cynnydd o 9.4% ar gyfartaledd i’w refeniw craidd yn 2022-23, yn cynrychioli naid o £437m ers llynedd. Cyhoeddwyd hefyd ddyraniadau dangosol gan Lywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf, â’r gefnogaeth hynny’n cael ei groesawu gan gynghorau er mwyn cynllunio i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Dyma setliad i’w groesawu’n gynnes a fydd yn hwb enfawr i’n cymunedau. Mae’n darparu buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol ac yn rhoi y sicrwydd pellach sydd ei angen ar gynghorau yn y cyfnod eithriadol sydd ohoni.

“Mae’r gefnogaeth ariannol i gynghorau gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hollbwysig i ymateb i’r argyfwng. Bydd setliad ar y raddfa yma yn helpu i roi gwasanaethau lleol ar droed mwy cadarn nag y mae nhw wedi bod ers tro. Mae’n benllanw misoedd o ddeialog adeiladol rhwng gweinidogion, arweinwyr a swyddogion llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

“Nid ffigyrau ar daenlenni yw buddsoddi mewn cynghorau. Mae’n fwy na hynny. Mae’n golygu buddsoddi yn ein cymunedau, ein pobl a’n gwasanaethau hollbwysig sy’n helpu i wella a newid bywydau, tra’n parhau i ymrafael â dwy her fyd-eang: y pandemig a newid hinsawdd.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Bydd y codiad hael mewn cyllid refeniw yn y cyhoeddiad heddiw yn helpu i ni ddarparu’n well ar draws ein holl wasanaethau, er bydd heriau sylweddol yn parhau i gyllidebau cyngor wrth i ni edrych . Rwy’n falch bod cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn cychwyn ymateb i’n pryderon maith am dâl i ofalwyr ac yn cydnabod y rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau cwbl gritigol ar gyfer y rhai bregus yn ein cymunedau. Mae’r canlyniad cadarnhaol yma yn adlewyrchu ein ymagwedd partneriaeth tuag at lywodraeth yng Nghymru a’n ymgysylltu rheolaidd â gweinidogion, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am gydnabod rôl hollbwysig cynghorau.”

“Bydd y cynnydd gwaelodol mewn cyllid yn ein helpu i gwrdd â’n pwyseddau chwyddiant sylfaenol ynghyd â’r pwyseddau ychwanegol o ganlyniad i Yswiriant Gwladol ond rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid i dalu’r cyflog byw go iawn i ofalwyr cofrestredig.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans (Sir Ddinbych), Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC:

“Dwi’n croesawu’r setliad a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru. Nid yn unig y mae’n cydnabod sut y mae ein gwasanaethau lleol hollbwysig yn chwarae rôl rheng flaen yn ymateb i’r pandemig, ond hefyd sut y mae nhw’n gwella bywydau yn ein cymunedau pob diwrnod o’r flwyddyn. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cymunedau yn edrych i lywodraeth leol am arweiniad a chefnogaeth trwy’r amseroedd anodd iawn yma.”

“Bydd croeso gan lywodraeth leol hefyd i’r dyraniadau cyllidebol a gyhoeddwyd am y ddwy flynedd nesaf, a fydd yn rhoi llawer mwy o sicrwydd i gynllunio ymlaen.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grwp Plaid Cymru CLlLC:

“Rwy’n croesawu’n fawr y setliad gan Lywodraeth Cymru, sydd yn un o’r gorau i ni ei weld ers tro byd. Mae’n tystio i’r ddeialog reolaidd ac adeiladol i ni ei chael gyda gweinidogion ac Aelodau o’r Senedd yn ehangach, sydd yn sicr wedi cael ei werthfawrogi gan arweinwyr cyngor.

“Tra bod llawer yma i fanylu ymhellach, bydd y cyllid a gyhoeddwyd i gynghorau hefyd yn helpu i lansio rhai o’r polisïau beiddgar yn y Cytundeb Cydweithredu, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ffyrdd o weithio i gyrraedd yr uchelgeisiau hynny.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard John (Sir Fynwy), Arweinydd Grwp Ceidwadol CLlLC:

“Dyma setliad sylweddol gan Lywodraeth Cymru sydd yn gywir yn cydnabod cyfraniad eithriadol ein gwasanaethau lleol. Rwy’n ddiolchgar i weinidogion am wrando arnom ni fel arweinwyr cyngor, ac am wneud y mwyaf o’r dyraniad hael a roddwyd i Drysorlys Cymru gan lywodraeth y DU. Mae’n dangos yr hyn all gael ei gyflawni dros ein cymunedau yng Nghymru ac ar draws y DU pan fo llywodraethau lleol, Cymru a’r DU yn gweithio a’i gilydd. Bydd y setliad yma’n ein helpu ni i wneud yn siwr bod gwasanaethau lleol hanfodol yn gallu parhau i gefnogi ein cymunedau pan mae nhw eu hangen.”

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

Bydd setliad dros dro llywodraeth leol nawr yn destun cyfnod saith wythnos o ymgynghori, a fydd yn dod i ben ar 8 Chwefror 2022, cyn i Lywodraeth Cymru osod ei chyllideb derfynol.

http://www.wlga.cymru/best-settlement-in-decades-a-boost-for-communities-and-vital-local-services-says-wlga