Yn dilyn teyrngedau i'r diweddar Cyng Phil White o Gyngor Bwrdeistef Sirol Penybont ar Ogwr, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC:
"Dymunwn dalu teyrnged i'r cyfraniad helaeth a wnaeth y Cyng Phil White fel cynghorydd lleol i wasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol yng Nghymru. Roedd Phil yn gefnogwr o waith CLlLC ers amser maith a byddwn yn methu ei gyfraniadau i'n trafodaethau, yn ogystal a'i wen a'i hiwmor. Roedd wastad yn lysgennad dros gymunedau lleol, gydag angerdd dros wasanaethau cymdeithasol a bydd colled ar ei ol. Cydymdeimlwn gyda'i deulu a'i ffrindiau yn eu galar."
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Penybont ar Ogwr a Llywydd CLlLC:
"Mae'r llu o deyrngedau sydd wedi cael eu talu i Phil yn adlewyrchu pwysigrwydd yr effaith a gafodd ar bobl. Roeddem wastad yn gwerthfawrogi ei safbwyntiau a'i gyfraniadau i drafodaethau yn CLlLC a rwy'n gwybod y bydd pobl ar draws Cymru yn gweld ei eisiau. Mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr amser anodd hwn."