Posts in Category: COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth)

Cyngor Dinas Casnewydd 

Cyngor Dinas Casnewydd

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi set gadarn o fecanweithiau cefnogaeth ymarferol ar waith i helpu’r rheiny yn y gymuned sydd fwyaf diamddiffyn. Mae hyn wedi bod o gymorth sylweddol gan y dull hyb cymunedol o weithio a weithredwyd i gefnogi tîm data gofodol y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi cynnal ei canolfan gyswllt hollbwysig i barhau y gwasanaeth cefnogi, ac wedi sefydlu rhif ffôn am ddim i’r canolfannau. Gan weithio gyda Volunteer Matters a Chymdeithas Mudiadau Gwrifoddol Gwent (GAVO), mae gan Gasnewydd dros 300 o wirfoddolwyr yn gweithio o fewn y gymuned. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gwella parseli bwyd gydag eitemau hanfodol ychwanegol. Mae’r cyngor yn helpu i ddarparu bwndeli babi (llefrith, clytiau, weips, ac ati) sydd wedi cael eu prynu ar gyfer dosbarthu i’r unigolion mwyaf diamddiffyn fel y nodwyd gan ymwelwyr iechyd, yn ogystal â phecynnau gweithgareddau i bobl ifanc, a phecynnau lles i breswylwyr hŷn. 

Grŵp Cydlynwyr COVID-19 ar y Cyd (Cyngor Sir Ynys Môn) 

Mae Cyngor Sir Ynys Mȏn wedi sefydlu grŵp Cydlynwyr Covid-19 ar y cyd ar draws sefydliadau Statudol a’r trydydd sector.  Mae’r grŵp, wedi’i gadeirio gan Arweinydd y Cyngor yn rhan o ymateb yr ynys i’r pandemig. Mae’n cynnwys y Cyngor a’r trydydd sector dan arweiniad Medrwn Mȏn a Menter Mȏn sydd yn gweithio i baratoi adnoddau i grwpiau cymorth cymunedol Covid-19 ar yr ynys. Mae grŵp y cydlynwyr wedi datblygu canllawiau cymunedol Covid-19. Mae gan y cyngor 860 o wirfoddolwyr cofrestredig yn gweithredu mewn 36 o dimau ardal. Mae chwedeg o’r gwirfoddolwyr hyn yn cael eu cyfrif fel gwirfoddolwyr arbenigol gan fod ganddynt DBS cyfredol. Trwy gymorth cymunedol, grwpiau gwirfoddolwyr a gwasanaeth prydau ‘neges’ mae tua 675 o unigolion yn cael eu cefnogi, gyda 325 o unigolion pellach yn derbyn cymorth gyda gwasanaeth casglu presgripsiynau, siopa bwyd ac atgyfeiriadau i amryw o wasanaethau cymorth.

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2020 09:42:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth) Ynys Môn

Cyngor Gwynedd  

Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi adleoli 23 swyddog i greu Tîm Cymorth COVID a sefydlwyd i gysylltu ag, ac ymdrin ag ymholiadau gan breswylwyr sy’n ynysu a/neu’n pryderu am eu hamgylchiadau oherwydd COVID-19; mae’r manylion cyswllt ar gael ar wefan y Cyngor. O fewn 11 diwrnod cyntaf Ebrill, cafodd tîm y Cyngor dros 1,000 o alwadau gan unigolion yn hunan-ynysu ac o berygl sylweddol sydd ar y rhestr warchod. Roedd y galwadau yn ymdrin â chyngor, cofrestru ar gyfer y pecyn bwyd mewn argyfwng ac/neu i drefnu casgliad meddyginiaeth. Mae’r cynlluniau Cyfeillio yn cefnogi preswylwyr diamddiffyn gyda siopa, casglu meddyginiaethau, paratoi a danfon bwyd, ac ati. Ynghyd â Menter Môn, mae Cyngor Gwynedd wedi creu rhestr o fusnesau bwyd ar draws Gwynedd sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi preswylwyr yn ystod y pandemig. Mae 600 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i Fanc Gwirfoddoli y Cyngor Gwirfoddoli Lleol, Mantell Gwynedd.

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2020 09:40:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth) Gwynedd

Ceredigion 

Cyngor Sir Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) i gydlynu ymateb gwirfoddolwyr i COVID-19. Mae proses glir wedi bod ar waith i unigolion sy’n dymuno gwirfoddoli mewn gwahanol gymunedau, lle mae CAVO yn ‘paru’ gwirfoddolwyr gyda grwpiau neu fudiadau. Ar 24 Ebrill, 2020, roedd 192 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i ymateb i COVID-19. Mae CAVO a’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth i ddiweddaru’r rhestr adnoddau dair gwaith yr wythnos. Mae'r rhestr ar gael ar wefan yr Awdurdod Lleol, ac mae’n cynnwys cyfeiriadur o gyflenwadau bwyd, siopa a chasgliadau presgripsiwn, a grwpiau cefnogi ymhob cymuned ar draws Ceredigion.

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2020 09:30:00 Categorïau: Cefnogi Pobl Agored i Niwed Ceredigion COVI9-19 COVID-19 (Gwirfoddoli - Partneriaeth)

Ap Cefnogaeth Gymunedol Torfaen (CBS Torfaen) 

Mae Cyngor Torfaen wedi lansio Ap Cefnogaeth Gymunedol Torfaen  ar 27 Ebrill, 2020 i helpu gyda chofrestriad cyflym a rhwydd gwirfoddolwyr sydd eisiau cynnig eu hamser, a helpu preswylwyr mwyaf diamddiffyn Torfaen i gofrestru ar gyfer cefnogaeth, yn ogystal â’u galluogi i gael y ddarpariaeth fwyaf addas iddynt. Bydd preswylwyr sy’n cofrestru i ddefnyddio’r ap yn gallu gwneud ceisiadau am: gasgliad meddyginiaeth; siopa bwyd, ac eitemau hanfodol eraill, y gwasanaeth cyfeillio, ac ati. Datblygwyd yr ap gan Syncsort, sef yn o bartneriaid technoleg y Cyngor. Bydd yr ap o gymorth i'r Hwb Cymorth Cymunedol a sefydlwyd yn ddiweddar, i weithredu’n fwy effeithiol, a bydd o gymorth arbennig pan mae anghenion preswylwyr yn cynyddu, ac wrth i sgiliau ac argaeledd gwirfoddolwyr newid dros amser.    Mae’r Cyngor, gyda chymorth partneriaid, gan gynnwys Bron Afon ac Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen , yn ogystal â grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n cydlynu ac yn darparu cefnogaeth uniongyrchol.  Mae fersiwn ar-lein o’r ap hefyd, sydd ar gael ar dudalen Covid-19 gwefan y Cyngor i’r sawl nad oes ganddynt fynediad i ddyfais symudol. Os nad oes gan breswylwyr fynediad i’r we, mae modd iddynt ffonio 01495 762200 am gymorth. Mae gan Gyngor Torfaen fwriad i ddefnyddio'r ap yn y tymor hir i gefnogi gwasanaethau gyda chydlynu Gwirfoddolwyr, ar ôl Covid19.

Ein Sir Fynwy (Cyngor Sir Fynwy) 

Mae Tîm Cefnogaeth Gymunedol Cyngor Sir Fynwy yn ‘asesu’r angen’, ac mewn partneriaeth gyda gwirfoddolwyr, maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau cefnogi, megis: casglu a danfon siopa a meddyginiaethau, darparu parseli bwyd a phrydau parod i’r sawl sydd eu hangen, gwasanaethau cyfeillio, ac ati.

Mae cyfrwng digidol https://ourmonmouthshire.org wedi cael ei ddatblygu i gyd-fynd â’r gweithgareddau presennol, a fydd yn cynnwys swyddogaeth bancio amser. Mae dros 1000 o wirfoddolwyr yn weithredol o fewn y sir. Mae’r Timau Datblygu Ardal wedi llunio darlun o ofynion gwirfoddoli ar gyfer pob un o’r 60 + grŵp gweithredu yn y gymuned sy’n cael eu cefnogi gan y cyngor a phartneriaid allweddol i gyfuno ymateb a galw gwirfoddolwyr.

Gyda’n Gilydd dros Gaerdydd (Cyngor Caerdydd) 

Sefydlwyd cynllun Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd, Cyngor Caerdydd ar ddechrau argyfwng COVID-19.  Mae 1,200 nawr wedi cofrestru gyda’r cynllun, sydd wedi gweithredu fel gwasanaeth brocer, i gyfuno pobl sy’n dymuno helpu gyda chyfleoedd gwirfoddoli ar draws y ddinas. Mae Gwirfoddoli Caerdydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda sefydliadau y trydydd sector yn cynnig cyfleuster chwilio ar-lein am sefydliadau a busnesau lleol sy’n danfon nwyddau at y stepen drws, a lle gall breswylwyr gofrestru i wirfoddoli. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu rhwydwaith o sefydliadau angor h.y. sefydliadau cymeradwyedig a sefydledig, i gefnogi y nifer o sefydliadau newydd sy'n cael eu creu mewn ymateb uniongyrchol i bandemig COVID-19.

Gan weithio gyda staff y Cyngor, mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl bwysig wrth baratoi a dosbarthu bwyd a nwyddau hanfodol mewn parseli argyfwng i bobl sy’n profi anawsterau yn ystod y pandemig oherwydd eu bod yn hunan-ynysu, neu oherwydd effaith ariannol yr argyfwng. Mae gan Dîm bwyd y Cyngor ychydig dan 1,200 o wirfoddolwyr ac maent yn dibynnu ar rhwng 10-15 o wirfoddolwyr y dydd i godi, pacio a danfon bwyd.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30