Cafodd Gwasanaeth Diogel ac Iach Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei sefydlu ar ddechrau cyfnod y coronafeirws i gefnogi preswylwyr a oedd yn gwarchod eu hunain ac nad oedd ganddynt neb i’w ffonio am gymorth gyda thasgau dyddiol fel siopa a chasglu meddyginiaethau.
Cafodd grwpiau eraill o bobl a oedd angen cefnogaeth eu nodi gan aelodau a swyddogion hefyd, gan gynnwys pobl oedd angen hunan ynysu ac nad oeddent yn derbyn unrhyw gefnogaeth, gofalwyr ifanc, rhieni plant oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim nad oeddent yn gallu derbyn taliadau BACS, a gofalwyr pobl oedd yn gwarchod eu hunain ac yn hunan ynysu.
Derbyniodd tua 1,300 o bobl gefnogaeth gan y gwasanaeth rhwng diwedd Mawrth 2020 a diwedd Mehefin 2020.
Sefydlwyd canolfan fwyd lle roedd staff o nifer o wahanol adrannau’n cydweithio i gael bwyd, sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel, ymdrin a dosbarthu, gwneud y gwaith dosbarthu, cadw cofnodion da, paratoi bwydlenni iach oedd yn darparu ar gyfer gofynion deietegol penodol, a sicrhau darpariaeth bwyd brys pan oedd amgylchiadau’n gofyn am hynny. Cafodd y trefniadau hyn eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel enghraifft o arfer da.
Fe wirfoddolodd tua 100 o weithwyr yn eu hamser eu hunain a chofrestrodd tua 450 o breswylwyr i fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth. Cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi ac yna aethant ati i weithio gyda chynghorwyr lleol i gefnogi'r gymuned leol. Fe fydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn cael ei recriwtio er mwyn cefnogi'r prosiect a’i weithgarwch ac mae strategaeth yn cael ei datblygu gyda mewnbwn gan gynghorwyr a sefydliadau cymunedol i sefydlu’r hyn fydd ei angen yn y ‘normal newydd'.