Yn cyfarch Cyngor CLlLC ar 25ain Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llywydd CLlLC:
“Mae hi’n 25 mlynedd yr wythnos hon ers sefydlu ein 22 o awdurdodau unedol a CLlLC.”
“Fel arfer, fe fydden ni wedi dathlu’r achlysur gyda rhyw fath o ddathliad. Ond ni fyddai hynny wedi bod yn briodol gan ein bod ni wedi nodi carreg filltir fwy lleddf a phwysicach, wrth nodi blwyddyn ers y clo cyntaf.
“Mewn cyfnod pan fo’n cymunedau a thrigolion ledled y wlaf mewn gwewyr o achos y pandemig, dyma amser i gydnabod yn hytrach na dathlu.
Rydyn ni’n cydnabod y cyfraniad hollbwysig mae cynghorau wedi ei wneud i’n cymunedau a’n gwlad.”
“Y cannoedd ar filoedd o swyddi y mae cynghorau wedi eu creu neu eu harbed.”
“Y cenedlaethau a’r cannoedd ar filoedd o bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysgu a’u hyfforddi.”
“Y degau o filoedd o bobl fregus yn ein cymdeithas sydd wedi derbyn gofal neu wedi eu cartrefi gan ein cynghorau.”
“Y cymunedau ar hyd a lled Cymru sydd wedi cael eu hadfywio.”
“Y cannoedd o wasanaethau sydd wedi cael eu darparu gan gynghorau i bawb yn ein cymdeithas - pob un diwrnod, pob un blwyddyn am chwarter canrif.”
“Hyd yn oed yn bwysicach, rydyn ni’n cydnabod ac yn rhoi diolch i’r ased mwyaf sydd gan llywodraeth leol: ei phobl. Cynghorwyr ac, yn arbennig, ein sawl miloedd o weithwyr cydwybodol, penigamp sydd eleni wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i’r galw ac wedi bod ar reng flaen yr ymateb i’r argyfwng.”
“Fe wnaeth ein cynghorau ail-flaenoriaethu ac ail-strwythuro gwasanaethau, ac adleoli miloedd o staff dros nos. Bu i’n cynghorau barhau i ymateb wrth i’r pandemig waethygu trwy’r gaeaf.”
“Yn fwy nag erioed, mae’r llywodraeth a chymunedau wedi troi atom ac wedi dibynnu arnom ni. Heb ein gweithlu ardderchog, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib. Mae’n cynghorau wedi eu lleoli yn unigryw wrth galon ein cymunedau. Nhw yw’r porth cyntaf am gymorth i’r rhai mwyaf bregus neu’r rhai sydd angen cefnogaeth neu sicrwydd. Wrth ymateb i’r argyfwng, mae nhw wedi mwy nag arddangos gallu cynghorau i ymateb waeth beth fo eu maint, ac wedi atgyfnerthu safbwynt CLlLC ar bwysigrwydd sybsidiaredd a lleoliaeth, gydag aelodau etholedig a’r gweithlu wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau lleol.”
“Wrth adlewyrchu ar 25 mlynedd o lywodraeth leol yng Nghymru, rydyn ni’n cydnabod ymroddiad ac arweiniad yr aelodau etholedig sydd wedi cynrychioli, gwasanaethu a chefnogi eu cymunedau trwy Gymru gyfan, a rydyn ni’n ymfalchïo ac yn talu teyrnged i’n gweithlu am eu tosturi, ymroddiad, proffesiynolrwydd, a’u gwasanaeth cyhoeddus yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf – y cyfnod mwyaf heriol y mae’n cymunedau a’n gwlad wedi ei wynebu mewn cenedlaethau.”