Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) heddiw wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru o £25m yn ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2024-25. Ond mae CLlLC yn rhybuddio nad yw dal yn unman agos i fod yn ddigon i gwrdd â’r bwlch cyllidol o £432m sy’n cael ei wynebu gan lywodraeth leol.
Y mis diwethaf, cyhoeddodd Lywodraeth y DU y byddai’r setliad llywodraeth leol yn Lloegr yn cael ei gynyddu £600m, yn bennaf i ymateb i bwyseddau gofal cymdeithasol, gan arwain at ddyraniad cyllid canlyniadol o thua £25m i Gymru.
Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol, ysgolion, ac i gefnogi cynghorau i fynd i’r afael â phwyseddau o fewn cymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:
“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw o £25m ychwanegol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Gweinidog am wrando i’r achos a waned gan CLlLC ac awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau lleol sydd dan bwysau aruthrol, gan gynnwys cefnogi’r rhai mwyaf bregus trwy ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
“Ond mae graddfa’r pwyseddau’n golygu fod llywodraeth leol yn parhau i wynebu bwlch o £432m, gan olygu y bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd gan gynnwys codi lefelau’r Dreth Gyngor ac o ran darparu gwasanaethau.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:
“Rwy’n falch i glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am gyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau hollbwysig megis gofal cymdeithasol, y gweithlu ac ysgolion. Bydd deialog CLlLC yn parhau gyda Llywodraeth Cymru, ac fe fyddwn ni’n troi ein gorwelion tuag at Gyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU am gefnogaeth gynaliadwy i helpu ymhellach i leddfu’r pwyseddau cyllidebol sy’n cael eu profi gan gwasanaethau lleol hanfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grwp Plaid Cymru:
“Dwi’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei hymgysylltu adeiladol gyda llywodraeth leol. Tra bod unrhyw gyllid i’w groesawu, mae’n glir na fydd y dyraniad yma’n cyffwrdd ochrau’r tyllau du cegrwth yng nghyllidebau ein gwasanaethau lleol. Mae gan gynghorau ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno cyllidebau cytbwys. Gan ystyried lefelau chwyddiant eithriadol, costau cynyddol, a mwy a mwy o alw ar ein gwasanaethau, mae’r orchwyl honno’n brysur fod yn amhosib.
“Siomedig yw gweld na fydd mwy o gyllid yn cael ei ddarparu i ariannu’r cynnydd mewn cyflogau athrawon. Golyga hyn y bydd disgwyl i lywodraeth leol i dalu am gost polisi Llywodraeth Cymru allan o goffrau bregus ein cynghorau.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC
“Ers cychwyn y cynni ariannol, mae cynghorau wedi colli dros £1bn o’u cyllidebau. Dyna golli £1bn o wasanaethau beunyddiol allweddol megis gofal cymdeithasol, ysgolion, datblygu economaidd, a gwasanaethau amgylcheddol i enwi ond rhai. Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud fawr ddim i gwrdd â’r bylchau cyllidebol enfawr yn ein cyllidebau.
“Mae’n glir bod angen ar fyrder am ymrwymiad gan lywodraethau Cymru a’r DU am gyllid cynaliadwy, hir-dymor i helpu i amddiffyn gwasanaethau ein cynghorau sy’n cefnogi ac yn gwella bywydau cymaint o bobl yn ein cymunedau.”