Gorwariant o £69m mewn gofal cymdeithasol yn peryglu cefnogaeth hanfodol, cynghorau yn rhybuddio

Dydd Gwener, 07 Tachwedd 2025

Disgwylir i ofal cymdeithasol gyfrif am 38 y cant o gyfanswm gorwariant cynghorau yng Nghymru’r flwyddyn ariannol hon, sy'n cyfateb i £69m. 

Mae cynghorau’n dweud bod galw am wasanaethau’n cynyddu, bod cyllidebau’n cael eu tynhau, ac mae anghenion yn mynd yn fwy cymhleth. Maen nhw'n rhybuddio, heb fuddsoddiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru, y bydd gofal hanfodol i blant, teuluoedd a phobl hŷn yn dod yn anoddach i'w gynnal. 

Eleni, mae gwasanaethau oedolion a phlant yn gweld achosion mwy cymhleth ac yn profi costau uwch. Yn 2023/24, ymatebodd gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i bron i 450,000 o gysylltiadau, cynnydd o wyth y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Mae'r galw am ofal cartref, cymorth i bobl ag anableddau dysgu, a gwasanaethau iechyd meddwl hefyd yn cynyddu. Mae mwy na 81,000 o bobl bellach yn dibynnu ar ofal a chefnogaeth barhaus gan wasanaethau cymdeithasol.    

Mae Adroddiad Pwysau Gwasanaethau Cymdeithasol 2025 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dangos bod gofal cymdeithasol yn cyfrif am dros £200m o bwysau cyllideb cynghorau yn 2026-27. Mae hynny'n fwy na thraean o'r holl bwysau llywodraeth leol. Mae tua £126m o hyn yn cael ei yrru gan gyflogau staff a chostau cynyddol, a £75m gan y galw cynyddol. 

Yn ddiweddar, cymerodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC, ran mewn trafodaeth banel yng Nghynhadledd Flynyddol Cydffederasiwn GIG Cymru, gan dynnu sylw at rôl hollbwysig llywodraeth leol wrth adeiladu system iechyd a gofal mwy cynaliadwy ac ataliol a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth agos â phartneriaid iechyd a phartneriaid eraill. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC: 

"Mae gofal cymdeithasol yn ymwneud â phobl a pherthnasoedd. Bob dydd, mae gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i fywyd rhywun, yn aml mewn amgylchiadau anodd. Roeddwn yn falch o ymuno â thrafodaethau gyda Chydffederasiwn GIG Cymru, gan dynnu sylw at rôl hanfodol gofal cymdeithasol wrth gefnogi GIG effeithiol a nodi cyfleoedd i gydweithredu'n agosach i hyrwyddo iechyd da a chefnogi cymunedau gyda’u lles a’u hannibyniaeth. 

"Mae cynghorau'n gweithio'n agos gyda phartneriaid iechyd i gefnogi rhyddhau o'r ysbyty a helpu pobl i fyw'n annibynnol. Ond mae galw a chostau cynyddol yn golygu na all cynghorau reoli hyn ar eu pennau eu hunain. Rydyn ni'n galw am gynllun hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol, gyda buddsoddiad gwirioneddol mewn atal, y gweithlu a'r bartneriaeth yn gweithio.  

"Hyd yn oed gyda'r pwysau ariannol, mae gwasanaethau yn dal i berfformio'n dda. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn graddio 84 y cant o ofal oedolion a 78 y cant o wasanaethau plant yn dda neu'n ardderchog ac rwy'n diolch i'r holl staff am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth bob dydd o'r wythnos. 

"Mae cynghorau yn benderfynol o barhau i ddarparu'r cymorth y mae pobl yn dibynnu arno, ond mae angen cynllun hirdymor arnom sy'n gwerthfawrogi gofal fel rhan hanfodol o'n cymunedau. Mae buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn golygu buddsoddi mewn pobl, mewn urddas ac yng nghryfder Cymru ei hun." 

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30