CLILC

 

Diolch i weithwyr ieuenctid am eu “cyfraniad enfawr mewn cyfnodau anodd”

  • RSS
Dydd Llun, 28 Mehefin 2021 Categorïau: Newyddion
Dydd Llun, 28 Mehefin 2021

Yr wythnos hon mae Cynghorau yng Nghymru yn nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid trwy ddiolch i weithwyr ieuenctid y wlad.

 

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle i ddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru; gyda’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o, a chefnogaeth i waith ieuenctid.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Llefarydd CLlLC dros Addysg:

 

“Wedi bod yn athro fy hun, rwy’n gwybod faint mae pobl ifanc yn ei elwa o gael rhwydwaith cefnogol o’u hamgylch. Mae gweithwyr ieuenctid yn ffurfio rhan allweddol o’r rhwydwaith hwnnw, trwy wella bywydau ifanc a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn.

 

“Mae Gwaith Ieuenctid yn llwybr gyrfa sy’n rhoi boddhad mawr ac yn darparu amrywiaeth o fanteision a all wella rhagolygon a bywydau’r genhedlaeth nesaf. Mae’n helpu pobl ifanc i ddatblygu'n holistig, yn gymdeithasol ac yn datblygu hyder, hunan-barch a hunaniaeth pobl ifanc.

 

“Mae eu gwaith wedi bod yn bwysicach nag erioed yn ystod y flwyddyn heriol ddiwethaf a hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu cyfraniad enfawr mewn cyfnod mor anodd."

https://www.wlga.cymru/youth-workers-thanked-for-their-enormous-contribution-in-difficult-times