Wrth i ni gamu i fewn i 2019, ac wrth i minnau gamu i mewn i fy rôl newydd fel Prif Weithredwr CLlLC, mae’n naturiol i adlewyrchu ac edrych ymlaen.
Dywedodd yr awdur Americanaidd Hal Borland unwaith: “Nid terfyn blwyddyn yn ddiwedd nac yn gychwyn ond yn barhad, gyda’r holl ddoethineb y gall profiad ei roi inni.” I lywodraeth leol yng Nghymru, dywed profiad wrthym ni bod yn rhaid inni fod yn ddewr ac yn eofn wrth ymateb i’r heriau styfnig y mae ein cynghorau yn eu wynebu.
Mae’r cynni ariannol yn parhau i daflu cysgod hir dros wasanaethau lleol – er gwaethaf cyhoeddiadau diweddar i’r gwrthwyneb. Bydd aelodau etholedig yn parhau i fod â’r dasg ddi-chwennych o orfod gwneud dewisiadau amhosib rhwng cau toiledau cyhoeddus neu i ddod â phrydau ar glud i ben; toriadau i wasanaethau ieuenctid neu gorffen darparu gwasanaethau cerddoriaeth; cyflwyno llai o gasgliadau biniau neu i dorri ar gynnal ein ffyrdd.
Gellir dadlau bod cynghorau Cymru wedi cael eu gwarchod i ryw raddau rhag graddfa’r toriadau arswydus sydd wedi cael eu gorfodi ar neuaddau sirol yn Lloegr – ond nid yw hynny’n lawer o gysur pan mae gwasanaethau lleol yng Nghymru wedi colli mwy na £1 biliwn ers cychwyn y toriadau, a chynghorau wedi archwilio pob opsiwn am arbedion effeithlonrwydd.
Er mwyn i lywodraeth leol allu llywio trwy’r dyfroedd tymhestlog yma, rhaid i ni fod yn chwim ac yn effro i’r holl gyfleon sydd ar gael i ni.
Dros y misoedd diwethaf, mae arweinwyr cyngor wedi cynnal deialog angerddol gyda chydweithwyr yo fewn Llywodraeth Cymru. Ffrwyth y llafur yma oedd y cyhoeddiad o gyllid ychwanegol sydd dal yn cynrychioli toriad i gynghorau mewn termau real, ond yn welliant i’w groesawu ar yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn y setliad dros dro. Dengys y ddeialog yma bod cydweithio yn hollbwysig er mwyn amddiffyn ein gwasanaethau.
Er hynny, wrth adnewyddu’r ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth, mae hefyd angen adnewyddu’r agenda o barch at y nail a’r llall. Mae arweinwyr cyngor yn disgwyl – ac yn haeddu – parch, fel partneriaid cyfartal o fewn y strwythur llywodraeth cenedlaethol. Gyda Phrif Weinidog newydd wedi ei ethol yng Nghymru o fewn yr wythnosau diwethaf a Chabinet ar ei newydd wedd, rwy’n edrych ymlaen yn optimistaidd i ailosod y berthynas wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a pharch tuag at ein gilydd.
Er gwaethaf yr heriau neilltuol yr ydyn ni i gyd yn eu wynebu, mae’n bwysig ein bod ni yn ymfalchïo yn ein llwyddiannau ni. Wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru ar raglen Ysgolion 21ain Ganrif, mae isadeiledd ysgolion Cymru yn cael ei drawsnewid; mae ymdrechion ein cynghorau ni yn golygu bellach bod Cymru yn un o’r gwledydd gorau yn y byd ar gyfer ailgylchu; ac mae buddsoddiad nas gwelwyd o’i fath erioed o’r blaen ar y gweill ymhob ran o Gymru o ganlyniad i gynghorau yn gwthio agenda y bargeinion rhanbarthol a dinesig. Mae’r rhain i gyd yn esiamplau nodedig o flaengaredd a dyfalbarhad cynghorau wrth ddarparu ar gyfer y cymunedau y mae nhw’n eu cynrychioli ac yn gwneud gwir wahaniaeth mewn bywydau pobl.
Rwyf yn gredwr gwirioneddol mewn penderfyniadau wedi eu gwneud yn lleol, a phŵer ein cymunedau. Llywodraeth leol yw’r haen o lywodraeth sydd â’r fwyaf o effaith sylfaenol ar fywydau dyddiol pobl, y prif gyflogwr mewn ardaloedd eang o Gymru, â’r porthorion ar gyfer rhai o’r gwasanaethau pwysicaf yn ein cymunedau.
Fel Prif Weithredwr, rwy’n edrych ymlaen i gefnogi arweinydd blaengar CLlLC, y Cyng. Debbie Wilcox, â’r tîm talentog o arweinwyr etholedig o bob cwr o Gymru wrth gynrychioli, amddiffyn a hybu buddiannau cymunedau a gwasanaethau lleol Cymru.