CLILC

 

Gweithio mewn partneriaeth i sicrhau cyfundrefn treth gyngor decach

  • RSS
Dydd Llun, 01 Ebrill 2019 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Diwygio trefn y budd-daliadau Newyddion
Dydd Llun, 01 Ebrill 2019

Mae CLlLC heddiw wedi croesawu cyfres o fesurau sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nôd o greu cyfundrefn treth gyngor decach, yn dilyn ymgynghori gyda CLlLC, awdurdodau lleol a MoneySavingExpert.com

Mae’r mesurau newydd sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru heddiw (Dydd Llun 1 Ebrill) yn cynnwys:

  • Disodli’r gosb o garchar am beidio talu’r dreth gyngor
  • Sefydlu dull gyson ar draws awdurdodau lleol i geisiadau am ostyngiadau ac eithriadau ar gyfer pobl gyda ‘nam meddyliol difrifol;
  • Mabwysiadu’r Protocol Dreth Gyngor Cymru – Ymarfer da wrth casglu’r dreth gyngor, sydd yn amlinellu ymrwymiad CLlLC, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gymryd ymagwedd mwy cyson, gan flaenoriaethu’r preswylydd, i ddyled, ôl-ddyledion a gorfodaeth.

Mae’r Dreth Gyngor yn cyfrannu dros £1.3bn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus allweddol ac mae’n bwysig bod cydbwysedd rhwng casglu’r dreth ond hefyd bod mor deg â phosib, yn enwedig gyda’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau, Diwygio Budd-daliadau a Lleddfu Tlodi:

“Mae Protocol Treth Cyngor Cymru yn newid pendant yn ein ymagwedd i ddyled ac ôl-ddyledion, a bydd yn canolbwyntio’n gyfangwbl ar ymgysylltu’n fuan gyda threthdalwyr. Mae hefyd yn hyrwyddo perthynas agosach gyda’n partneriaid yn y sector gynghori ac asaiantwyr gorfodi i sicrhau na fydd problemau yn mynd allan o reolaeth yn ddiangen ar gyfer bobl fregus.”

“Edrychwn ymlaen i adeiladu ar y mesurau yma ymhellach gyda Llywodraeth Cymru.”

 

Gellir gweld Protocol Treth Cyngor Cymru ar-lein ar www.wlga.cymru/welfare-reform.

https://www.wlga.cymru/working-in-partnership-to-achieve-a-fairer-council-tax-system