CLILC

 

CLlLC yn croesawu cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i gwrdd â chostau pensiynau

  • RSS
Dydd Mercher, 13 Mawrth 2019 Categorïau: Gweithlu Newyddion
Dydd Mercher, 13 Mawrth 2019

Mae CLlLC wedi croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei wneud ar gael yn 2019-20 i helpu i gwrdd â chostau ychwanegol yn gysylltiedig â newidiadau i bensiynau a cafodd eu cyhoeddi’n flaenorol gan Lywodraeth y DU.

Bydd y cyllid ychwanegol yn cynnwys:

  • £42.1m ar gael i gwrdd â’r pwysedd a ragwelir ar gyfer ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol o ganlyniad i’r cynnydd mewn pensiynau athrawon
  • £6m i gwrdd â’r effaith disgwyliedig ar awdurdodau lleol o ganlyniad i’r newid mewn pensiynau gwasanaethau tân

 

Yn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Arweinydd CLlLC y Cyng Debbie Wilcox (Casnewydd):

“Mae CLlLC yn croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.  Mae cryn ansicrwydd wedi bod ynghylch y cyllid ychwanegol sydd ei angen ar gyfer swyddogion tân, athrawon a gweithwyr sector gyhoeddus eraill ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau i gynyddu cyfraniadau gan gyflogwyr ym mis Medi.  Ar adeg pan fo llawr o awdurdodau lleol yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn wrth osod eu cyllidebau a lefelau’r dreth cyngor ar gyfer 2019-20, mae’r cyhoeddiad yma yn newyddion ardderchog ac yn darparu sefydlogrwydd pellach ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Mae Llywodraeth Cymru a Gweinidogion wedi gweithio gyda llywodraeth leol mewn ffordd agored a chydweithredol wrth roi ein hachos i Lywodraeth y DU, a rydyn ni’n ddiolchgar am eu hymdrechion.  Mae hyn yn dangos ymroddiad clir i’n ysgolion a gwasanaethau eraill rheng flaen ac yn tanlinellu yr hyn sydd yn bosib pan ydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Edrychaf ymlaen i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn nesaf.”

 

-DIWEDD-

https://www.wlga.cymru/wlga-welcomes-welsh-government-funding-to-help-meet-pension-costs