CLlLC yn croesawu cyhoeddiad o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru

Dydd Mercher, 19 Mehefin 2019

Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru o gyllid cyfalaf ychwanegol i lywodraeth leol fel rhan o becyn buddsoddiad i gefnogi Cymru pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb, dywedodd Arweinydd CLlLC y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):

 

“Tra’r ydyn ni’n ymaros mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru, rwy’n croesawu’n gynnes cyhoeddiad y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd o’r ymrwymiad o gyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leoll. Mae ansicrwydd Brexit yn parhau i amharu ar allu awdurdodau lleol i gynllunio ymlaen, gyda’r perygl o ddim cytundeb yn parhau i fodoli’n bryder gwirioneddol.”

“Beth bynnag fo canlyniad terfynol Brexit, y gwirionedd yw y bydd ein pobl fregus ni’n dal angen cael eu gofalu amdanynt, ein plant ni yn dal angen cael eu addysgu, ein ffyrdd ni yn dal angen cael eu cynnal, ac ein trigolion yn dal i fod angen cael mynediad i dai fforddiadwy o safon. Mae gallu awdurdodau lleol i wneud hyn yn dibynnu’n llwyr ar wasanaethau yn cael eu cyllido yn deg, a byddwn ni’n edrych ymlaen i barhau â’n trafodaethau gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau lleol hanfodol gyda’r pwer a’r dycnwch i wynebu risgiau y dyfodol.”

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION:

Daw y cyllid ychwanegol i lywodraeth leol fel rhan o’r pecyn buddsoddiad £85m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Atodol Llywodraeth Cymru, fel yr amlinellir mewn Datganiad Ysgrifenedig: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-pecyn-buddsoddi-cyfalaf?_ga=2.262460495.295841628.1560767297-1422188454.1530526391

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30