CLlLC yn croesawu £12.8m o gyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon

Dydd Mawrth, 22 Hydref 2019

Mae CLlLC heddiw wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £12.8m o gyllid ychwanegol i helpu i gwrdd â’r gost o godiadau i gyflogau athrawon.

Dyma’r flwyddyn gyntaf i Lywodraeth Cymru allu gosod cyflogau ac amodau athrawon yn dilyn datganoli’r pwerau hynny i Gymru. Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg y bydd cynnydd o 5% yng nghyflog cychwynnol athrawon sydd newydd gymhwyso yng Nghymru, tra bydd cynnydd o 2.75% i isafswm ac uchafswm pob ystod band cyflog a lwfans arall i athrawon.

 

Dywedodd y Farwnes Wilcox o Gasnewydd, Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw ar gyfer cyflogau athrawon. Os ydyn ni am greu system addysg o’r radd flaenaf, mae’n hollbwysig ein bod ni’n gallu denu athrawon talentog i weithio yn ein ysgolion trwy eu gwobrwyo nhw’n briodol.

“Mae cyllid addysg yn dal yn cyflwyno darlun heriol iawn i awdurdodau lleol, ac mae nhw’n wynebu gorwario o £54m ar draws yr holl wasanaethau am y flwyddyn gyllidol yma’n unig. Mae’n bwysig bod y dyfarniad cyflog cyflawn yn cael ei gwrdd yn llawn gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf, yn ogystal â phwyseddau o £105m ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion, a’r costau gweithlu o ran athrawon a chymorthyddion.”

“Mae gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau yn wynebu pwyseddau o £254m, gydag ysgolion ac addysg yn cynrychioli 40% o hynny, sydd yn amlwg yn mynd i effeithio’n uniongyrchol ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau. Gan ragweld y bydd £593m yn llifo i Gymru yn dilyn Adolygiad Gwariant y DU, mae gan Lywodraeth Cymru nawr gyfle i wireddu addewidion i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac i Lywodraeth Cymru a lleol i weithio gyda’u gilydd i ddarparu dros ein cymunedau.”

-DIWEDD-

 

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30