CLILC

 

Rhybudd gan CLlLC o “storm aeaf berffaith” ar y gorwel

  • RSS
Dydd Iau, 25 Awst 2022

Mae CLlLC heddiw wedi ymateb i’r newyddion fod Ofgem yn mynd i godi’r cap ar brisiau ynni unwaith eto o £1,971 i £3,549.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros yr Economi:

“I roi hyn yn ei gyd-destun, mae’r codiad yma’n gyfystyr i £400 y mis i filiau ynni cyfartalog cartrefi sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, neu dros £120 yr wythnos i’r rhai hynny ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Yn syml, ni all y rhan fwyaf o aelwydydd Cymru fforddio hyn.”

“Bydd hyn yn dinistrio’r rhwyd diogelwch budd-daliadau i lawer o deuluoedd gan eu gadael nhw yn methu talu eu biliau ac yn gorfod dewis rhwng bwydo’r mesurydd talu neu fwydo eu teuluoedd. Bydd yn golygu fod pobl yn methu prynu’r bwyd neu ddillad y mae nhw ei angen.”

“Mae llywodraeth leol yn paratoi cynlluniau i gynorthwyo trigolion ac i’w helpu nhw i baratoi am bwyseddau prisiau ynni a chostau byw ac yn barod i helpu llywodraethau Cymru a’r DU i gefnogi pobl y gaeaf hwn. Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth y DU sydd â’r pwer ariannol i amddiffyn trigolion rhag yr effeithiau gwaethaf.”

“Bydd y glec i fusnesau ar draws Cymru yr un mor ddramatig a’r un fydd yn taro teuluoedd. Bydd codiadau ym mhrisiau ynni yn eu gwneud nhw’n llai cystadleuol ac yn llai cynaliadwy. Yn anorfod, bydd hyn yn golygu bydd rhai busnesau yn dod yn anhyfyw os nad oes help yn cael ei ddarparu ar unwaith. Mae busnesau yn wynebu’r storm aeaf berffaith o gynnydd mewn costau ynni, cyflogau a nwyddau, yn ogystal â lleihad sylweddol mewn galw. Gall hyn arwain at fusnesau’n methu, colli swyddi, yr economi’n methu ac yn achosi dirwasgiad ddwfn a niweidiol.”

“Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu nawr heb oedi i amddiffyn teuluoedd a busnesau rhag y drychineb yma.”

-DIWEDD-

https://www.wlga.cymru/wlga-warns-of-looming-perfect-winter-storm-