Datganiad CLlLC: Arweinydd yn talu teyrnged i'r Cyng Aaron Shotton

Dydd Iau, 04 Ebrill 2019

Mewn ymateb i ddatganiad cynharach y Cynghorydd Aaron Shotton yn cadarnhau ei fwriad i gamu i lawr fel Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd WLGA:

“Hoffwn dalu teyrnged a diolch i Aaron am ei gyfraniad gwerthfawr i WLGA yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi cymryd rhan ragweithiol yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol drwy WLGA ers 2012, a bu’n aelod allweddol o’r tîm arweinyddiaeth fel Dirprwy Arweinydd WLGA a Llefarydd dros Faterion Tai. Mae Aaron wedi gwasanaethu ei gymuned, Sir y Fflint, Gogledd Cymru a llywodraeth leol mewn modd ymrwymedig a diflino a byddwn yn gweld eisiau ei arweiniad a’i gymorth yn WLGA.”

“Mae’n arbennig o siomedig bod cynrychiolydd etholedig wedi penderfynu camu i lawr oherwydd yr heriau sy’n gysylltiedig â bod yn uwch ffigur cyhoeddus ar yr adeg hon a’r effaith mae hynny’n ei chael ar unigolion a’u teuluoedd. Rwy’n hyderus, fodd bynnag, y bydd y cyngor yn darparu’r arweiniad a’r gefnogaeth angenrheidiol i Aaron ac unrhyw bobl eraill sydd wedi’u heffeithio.”

“Gobeithio y gall Cyngor Sir y Fflint ddod ynghyd i barhau i fod yn Gyngor sy’n cael ei lywodraethu’n dda ac sy’n perfformio’n uchel wrth wasanaethu ei gymunedau lleol. Fel WLGA byddwn yn cynnig pa bynnag gefnogaeth y gallwn.”


Mae’r Cynghorydd Shotton yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ers mis Mai 2012 a chyn hyn bu’n gwasanaethu fel Llefarydd WLGA dros Gyllid ac Adnoddau a chynrychiolydd WLGA ar Gyngor Partneriaeth Cymru, Pwyllgor Gwaith LGA a Bwrdd Adnoddau LGA.
 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30