Datganiad i’r Wasg WLGA - Cyllideb Wanwyn Llywodraeth y DU 2017

Dydd Mercher, 08 Mawrth 2017

Bydd gwasanaethau lleol a ddibynnir arnynt gan y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau yn parhau i wynebu dyfodol ansicr. Bydd diffyg o £200m mewn cyllid lleol flwyddyn nesaf, ac yn codi i £540m erbyn 2019-20, gyda bron i hanner y ffigwr yma oherwydd pwysau mewn gofal cymdeithasol. Mae effeithiau llymder yn cael eu teimlo yn ddirfawr yn ein cymunedau, gyda gwasanaethau hanfodol megis llyfrgelloedd, hamdden a chynllunio yn profi gostyngiadau o rhwng 30% a 50%. Mae Gofal Cymdeithasol hefyd yn gwegian o dan bwysau sydd wedi ei achosi gan chwyddiant a demograffig, ac angen ateb hir-dymor.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint), Llefarydd dros Gyllid ac Adnoddau:

“Gall cyhoeddiad heddiw fod wedi mynd llawer yn bellach i wrthdroi llymder a’i effeithiau ar yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau dewisol a ddarperir gan gynghorau wedi cael eu cafnu allan. Rydym wedi cydweithio yn dda gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r argyfwng gofal cymdeithasol yn Lloegr yn cael ei ailadrodd yma. Fodd bynnag, mae gwasanaethau rwan yn gwegian a dim ond dwy flynedd i ffwrdd ydym ni o wynebu argyfwng tebyg.. Dylai unrhyw gyllid ychwanegol sydd yn cael ei wneud ar gael i gynghorau yn Lloegr gael ei adlewyrchu i gynghorau yma hefyd. Byddai hyn yn sicrhau nad yw gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn yr un trywydd enbyd. Beth sydd ei wir angen arnom ni yw ateb hir-dymor i’r problemau sy’n cael eu achosi gan boblogaeth sydd yn heneiddio gyda chyflyrau cronig.”

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Dirprwy Lefarydd dros Gyllid ac Adnoddau:

“Bydd gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus yn parhau i fod yn nodwedd o gyllid cenedlaethol am amser hir i ddod, a nid yw hyn yn newyddion da i wasanaethau cyhoeddus lleol. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cyflwyno dewisiadau anodd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn o’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin, er fod yr economi’n perfformio’n well na’r disgwyl. Bydd angen rhagor o fanylion i asesu pa effaith y bydd hyn yn ei gael ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 a thu hwnt. Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gynllunio a meddwl am y tymor hir. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ynglyn a’u rhagdybiaethau cynllunio tu hwnt i’r flwyddyn nesaf i sicrhau bod gwariant ataliol yn cael ei flaenoriaethu”.

DIWEDD


Mae rhagor o wybodaeth gan: Dilwyn Jones

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30