Mae Cyfansoddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dweud fel a ganlyn gall y CLlLC sefydlu cynllun lwfansau i’r cynghorwyr sy’n cyflawni rolau ar ran CLlLC.
O’u gwirfodd y bydd aelodau’n ymwneud â’r cynllun, ac mae pawb yn cael dewis a fydd yn mynnu lwfans neu beidio. Mae Pwyllgor Archwilio CLlLC yn adolygu’r cynllun bob blwyddyn. Dyw Cynllun Lwfansau Aelodau CLlLC ddim yn rhan o orchwyl y Panel Annibynnol dros Gydnabyddiaeth.
Dyma’r lwfansau ar gyfer 2025-26:
- Arweinydd - £14,042.37
- Dirprwy Arweinydd - £10,531.76
- Aelod llywyddol - £10,531.76
- Dirprwy aelod llywyddol (Y cylch gwleidyddol mwyaf) - £3,510.57
- Arweinydd cylch Annibynnol - £5,563.98
- Arweinydd cylch Plaid Cymru - £5,563.98
- Arweinydd cylch y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - £5,563.98
- Llefarydd dros Addysg - £5,563.98
- Llefarydd dros yr Economi - £5,563.98
- Llefarydd dros Wasanaethau Cymdeithasol - £5,563.98
Polisi Treuliau Aelodau CLILC
Bydd achosion pan fydd aelodau'n cyflawni dyletswyddau cymeradwy mewn perthynas â'u rôl CLlLC, a bydd costau'n codi. Mae Polisi Treuliau Aelodau CLILC yn nodi'r manylion ynghylch pwy all hawlio, beth y gellir ei hawlio, a'r prosesau i'w dilyn ar gyfer ad-dalu.
Rhaglen Gwella CLlLC
Mae Aelodau sy’n cefnogi Rhaglen Wella CLlLC, gan gynnwys cymryd rhan mewn Her Cymheiriaid, Asesiad Perfformiad Panel neu ymgymryd ag ychydig o waith pwrpasol, yn gymwys i dderbyn cyfradd diwrnod Cymheiriaid Aelod CLlLC. Mae’r gyfradd yn cyd-fynd â chyfradd diwrnod y Gymdeithas Llywodraeth Leol sy’n £371 ar gyfer eleni.
Cynllun Lwfansau Cymdeithas Llywodraeth Leol
Mae’n bosibl y bydd rhai o aelodau Cyngor CLlLC a chynghorau lleol Cymru yn cael eu penodi i fyrddau, pwyllgorau neu swyddi Cymdeithas Llywodraeth Leol hefyd ac, o ganlyniad, efallai y byddan nhw’n cael hawlio lwfans megis: Bwrdd Cynghori Gweithredu LGA (Cynrychiolydd CLlLC) - £3,290.
Bydd Aelodau sydd wedi eu penodi gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyrff ar ‘Ochr y Cyflogwr’ yn derbyn cyfradd ddydd o £371, yn seiliedig ar y nifer o gyfarfodydd a fynychir. Gallai rhai o aelodau Cyngor CLlLC a chynghorau lleol Cymru gael eu penodi i fyrddau eraill LGA, lle bydd hawl i dderbyn. Cynrychiolwyr cylchoedd gwleidyddol LGA fyddai aelodau o’r fath, fodd bynnag, nid cynrychiolwyr CLlLC.
Dolen:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lee Pitt