Dangosir gan gyhoeddiad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae’r cynnydd a welir ar olwg gyntaf y gyllideb oherwydd cyfnewid o bortffolios gweinidogol eraill ac mae hyn yn cuddio yr hyn sydd yn debygol o fod yn sefyllfa waeth i awdurdodau lleol. Bydd y setliad ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf.
Daw’r cyhoeddiad wedi adroddiad gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 ddangos yn glir effaith aruthrol wyth mlynedd o lymder ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Mae’r toriadau i’r gwasanaethau llai ond hanfodol sydd yn gweithredu fel conglfaen unrhyw gymdeithas wâr yn syfrdanol. Llywodraeth leol sydd bellach wedi cael ei wthio o’r neilltu ymysg gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Meysydd megis gwasanaethau trafnidiaeth, amddiffyn, diwylliant, llyfrgelloedd, amgylchedd sydd wedi ysgwyddo baich cyfran sylweddol o’r toriadau cyllideb.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd WLGA:
“Mae yn dod yn fwy anodd nag erioed i ganfod y geiriau i ddisgrifio sut mae llymder wedi erydu gwasanaethau cyhoeddus. Ers dod yn Arweinydd WLGA, rwy’n gyson wedi dweud bod llymder yn syniad ‘gyda dyfodol disglair tu ôl iddo’. Mae’r effaith ar ein gwasanaethau, ein cymunedau sy’n eu defnyddio a’r gweithlu sy’n eu darparu wedi bod yn ddinistriol. Fy neges gyson yw bod ein gwasanaethau yn werthfawr – y glud sydd yn cloi cymunedau at eu gilydd.”
Cymerwch wasanaeth fel Datblygu Economaidd, er enghraifft; mewn cyfnod lle’r ydyn ni’n ceisio datblygu agenda rhanbarthau dinas a ffordd ranbarthol o weithio, mae’r gwasanaeth wedi gweld toriadau o dros 60% ers 2009. O ran Iechyd yr Amgylchedd, sydd eisoes wedi gweld toriadau o dros 40%, byddai toriadau cyllidebol ychwanegol yn gallu arwain at danseilio iechyd a llesiant rhai o aelodau mwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn enwedig o ran diogelwch bwyd. Mae’r gwasanaethau yma i gyd yn ei chael hi’n anodd iawn, ac mae’n ddyletswydd arnom ni i ymgyrchu drostyn nhw a’u hamddiffyn nhw.”
“Edrychwn ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol wythnos nesaf. Rwy’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford yn wynebu penderfyniadau anodd ac yn ceisio llunio’r gyllideb mewn ffordd deg. Gobeithiwn weld gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn cael eu trin yn gydradd â’r Gwasanaeth Iechyd gan gydnabod rôl allweddol gwasanaethau ataliol wrth gadw pobl allan o’r ysbyty.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Dirprwy Lefarydd WLGA dros Gyllid ac Adnoddau:
“Mae gwasanaethau lleol wrth groesffordd ac mae amseroedd anodd o’n blaenau. Rydyn ni eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru i alw ar Lywodraeth DU i feddwl eto am yr agenda llymder – does dim llai na goroesiad gwasanaethau lleol yn y fantol. Fy nghred i yw y bydd toriadau pellach yn arwain at leihad a diddymu gwasanaethau a fydd yn effeithio ar bawb gan gynnwys y mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Rydym eisoes yn gweld bod teimladau chwyrn ymysg y cyhoedd yn erbyn y toriadau.”
“Mae llywodraeth leol yn wynebu diffyg cronnol o dros £760m erbyn 2021-22 gyda phwysau cost a galw yn cynyddu tua 4% bob blwyddyn. Ers cychwyn llymder, mae awdurdodau lleol wedi gorfod ysgwyddo’r costau yma. Mae’r gred bod llymder yn gweithio bellach yn deilchion, i’r pwynt lle nad oes prin neb yn dal i gredu ynddo. Mewn gwirionedd, ar gyfer rhai gwasanaethau, rydyn ni wedi gweld ‘sêl cau i lawr’ estynedig dros y saith mlynedd diwethaf.”
“Rydyn ni hefyd yn dadlau y dylai ein trefniadau cyllid gael eu gwneud mewn ffordd sydd yn fwy hyblyg, ac ein bod yn cael bargen am fwy nag un flwyddyn. Fe fyddwn ni yn gweld manylder y setliad ar gyfer llywodraeth leol wythnos nesaf a byddwn yn gweld sut y mae’n mesur yn erbyn yr hyn yr ydyn ni’n gredu sydd ei angen ar wasanaethau lleol.”