Mae Arweinydd WLGA heddiw yn galw ar ddiwedd i’r toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus wrth i adroddiad newydd gael ei gyhoeddi yn amlygu graddfa effaith cyllidebau sy’n crebachu.
Mae cyhoeddiad adroddiad ‘Dewisiadau Cyllidebol i Gymru’ yn ddarn o waith trwyadl ac amserol gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025. Mae’n dangos yn glir yr effaith argyfyngus y mae wyth mlynedd o lymder wedi ei gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Golyga’r goblygiadau o benderfyniadau gwleidyddol a wnaed i amddiffyn rhai gwasanaethau bod gwasanaethau eraill prin wedi cael yr adnoddau yr oedden nhw yn ei dderbyn yn 2009-10.
Mae’r toriadau i’r gwasanaethau llai ond hanfodol sydd yn rhan o’r sylfaen o unrhyw gymdeithas sifil yn anghredadwy. Gwasanaethau llywodraeth leol sydd bellach yn wasanaethau ‘Sindarela’ ymysg gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Swyddogaethau megis trafnidiaeth, amddiffyn, diwylliant, llyfrgelloedd, a gwasanaethau amgylcheddol sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y toriadau cyllidebol. Mae’r gwasanaethau hynny wedi cael eu gwacáu gan unrhyw faint rhwng 20% i 40%. Mae hyn yn effeithio ar ein cymunedau. Er enghraifft, mewn amser lle mae twf economaidd cenedlaethol yn wan, mae awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud lleihad o dros 60% wrth wario ar ddatblygu economaidd.
Dengys rhagolygon GCC 2025 o gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol y bydd yn dal i brofi cyllidebau’n crebachu ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant, ond yn nhermau real, bydd y cyllidebau yn cynyddu. O dan rhai rhagdybiaethau, gall y gyllideb Iechyd gynyddu i 55% o’r gyllideb gyfan a bydd gan hyn oblygiadau enfawr ar gyfer y gwasanaethau hynny sydd yn parhau i fod heb eu diogelu. Fel sy’n cael ei ddadlau yn yr adroddiad, nid oes pwynt mewn esgus nad yw eu cynaliadwyedd yn ddi-gwestiwn.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd WLGA:
“Ers dod yn arweinydd WLGA, rwyf wedi nodi yn gyson bod llymder ddim yn gweithio a bod ei effaith ar ein gwasanaethau, ein cymunedau sy’n eu defnyddio a’r gweithlu sy’n ei darparu wedi bod yn ddinistriol. Fy neges gyson yw bod ein gwasanaethau yn werthfawr – y glud sydd yn cloi cymunedau gyda’u gilydd. Ond mae nhw’n ei chael hi’n anodd, ac mae’n ddyletswydd arnom ni i ymgyrchu drostyn nhw a’u hamddiffyn nhw.
“Mae’r gred bod llymder yn gweithio yn deilchion bellach, i’r pwynt ble nad oes prin neb yn dal i gredu ynddo. Mewn gwirionedd, ar gyfer rhai gwasanaethau, rydym ni wedi tystio ‘sêl cau i lawr’ estynedig am saith mlynedd. Rhybuddiodd y Sefydliad Siartredig ar gyfer Iechyd Amgylcheddol yn ddiweddar, er enghraifft, bod eu gallu i ymdopi gyda’r cynnydd mewn llygredd aer ac achosion E-coli yn mynd i gael ei beryglu os y gorfodir rhagor o doriadau i wasanaethau iechyd amgylcheddol. Mae’n werth nodi taw gwasanaethau ataliol fel hyn sydd yn cadw pobl rhag gorfod defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd WLGA dros Adnoddau:
“Mae’r adroddiad yma’n dangos bod gwasanaethau lleol ar groesffordd gydag amseroedd anodd o’u blaenau. Fy nghred i yw y bydd rhagor o doriadau yn arwain at ragor o grebachu a thorri ar wasanaethau a fydd yn effeithio ar bawb, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Fel cymuned llywodraeth leol, rydym yn gofyn am i wasanaethau lleol gael eu trin yn gydradd a’r Gwasanaeth iechyd. Rydym yn dadlau y dylid gwneud ein trefniadau cyllido yn fwy hyblyg ac ein bod yn derbyn setliadau ariannol am fwy nag un blwyddyn. Cyfeirir yn yr adroddiad tuag at gyflog a’r cap mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae WLGA am weld diwedd ar y cap hynny.
“Rydyn ni eisiau gweld y rhai sy’n gweithio yn galed yn ein gwasanaethau i gael eu gwobrwyo’n deg. Hefyd, dylai hyn gael ei ariannu yn llawn gan San Steffan. Rydym yn galw ar yr holl Aelodau Cynulliad wrth edrych tuag at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ym mis Hydref i adlewyrchu ar ganfyddiadau yr adroddiad yma, cydnabod y penderfyniadau anodd mae cynghorau wedi eu gwneud ac i weithredu i wneud yn iawn am y niwedd sydd wedi ei wneud i wasanaethau cyhoeddus lleol.”