Mae WLGA yn parhau i gynnig amrywiaeth o gymorth corfforaethol i awdurdodau ar gyfer gwella.
Ers i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r grant ar gyfer gwella ddiwedd 2014-15, mae WLGA wedi addasu ei chynnig yn ôl y gweithgareddau craidd isod:
- rhaglen adolygu gorfforaethol trwy gymheiriaid;
- cynorthwyo a datblygu cynghorwyr;
- cyfnewid arferion da;
- cymorth ar gyfer gwella corfforaethol trwy gyfranogion WLGA.
Trwy Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru, mae WLGA yn parhau i gynnig amryw wasanaethau penodol a chyffredinol i awdurdodau lleol y wlad megis:
Mae dull gwella WLGA wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol: hunanwella y bydd y sector yn ei arwain; cynorthwyo ein gilydd; cwestiynu trwy gymheiriaid; rhannu arbenigedd; rhoi cymorth cyfatebol o faes llywodraeth leol.
Adolygu corfforaethol trwy gymheiriaid
Mae rhaglen adolygu gorfforaethol WLGA wedi’i seilio ar un yr LGA. Mae’n canolbwyntio ar nifer o themâu craidd megis delfryd strategol, arwain, llywodraethu a rheoli adnoddau a chyflawniad.
Pris adolygu corfforaethol gan gymheiriaid dros bedwar diwrnod fydd £10,000 + TAW fel arfer (am fod Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r cymhorthdal). Mae’r pris wedi’i bennu yn ôl costau cynnal tîm ac ynddo ddau gynghorydd a thri swyddog yn ogystal â’r sawl fydd yn ei arwain. Mae modd rhoi rhagor o gymorth ac arbenigedd yn y tîm am dâl ychwanegol, hefyd.
Dyma ragor am adolygiadau WLGA trwy gymheiriaid.
Cymorth ar gyfer gwella corfforaethol trwy gyfranogion WLGA
Mae WLGA yn cydweithio ag amryw gyfranogion i gynnig rhaglenni adolygu corfforaethol penodol a/neu gymorth a gallu parhaus i awdurdodau mewn meysydd megis cwestiynu corfforaethol ar gyfer gwella a chynllunio ar gyfer cyflawni. Bydd y prisiau’n amrywio yn ôl natur y cymorth mae’i angen arnoch chi.
Mae rhagor o wybodaeth gan Daniel Hurford: daniel.hurford@wlga.gov.uk 029 2046 8615.
Datblygu cynghorwyr
Mae WLGA yn parhau i gynnig cyfarwyddyd a chymorth strategol i awdurdodau lleol yn ogystal â hyfforddiant a phecynnau cymorth mewnol i gynghorwyr mewn meysydd megis craffu, llywio cyfarfodydd, mentora ac adolygu datblygiad personol. At hynny, mae WLGA yn cydweithio ag Academi Cymru a’r LGA i lunio cyfres newydd o gyrsiau Academi Arwain i gynghorwyr.
Dyma holl fanylion cynnig WLGA ynglŷn â datblygu cynghorwyr.
Mae rhagor o wybodaeth gan Sarah Titcombe: sarah.titcombe@wlga.gov.uk 029 2046 8638.
Arfer Da Cymru
Mae Arfer Da Cymru yn wefan sy’n cynnig arferion da a gwybodaeth i wasanaethau cyhoeddus Cymru.
Nod Porth Arfer Da Cymru yw bod y pwynt mynediad unigol at amrediad eang o arfer da sydd ar gael ar hyd a lled gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru
Mae Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru yn cynnig amryw wasanaethau cymorth i’r awdurdodau lleol ym maes gwella megis:
- Amryw ffyrdd o helpu cynghorwyr a swyddogion i ddeall a defnyddio data am gyflawniad megis gwefan Fy Nghyngor Lleol, canolfan ar gyfer meincnodi a dulliau arbenigol eraill
- Helpu i feincnodi data am gyflawniad a phynciau cysylltiedig gan gynnwys hwyluso nifer o glybiau meincnodi ledled y wlad
- Sesiynau penodol i gynghorwyr lleol (megis aelodau pwyllgorau craffu) ynglŷn â deall a defnyddio data am gyflawniad
- Cynnig amryw ddata cyd-destunol ar gyfer llunio a chyflawni polisïau - gwefan www.infobasecymru.net
- Cynghorion a chyfarwyddyd am ddefnyddio data a llunio/defnyddio arolygon lleol
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru gan Andrew Stephens: andrew.stephens@dataunitwales.gov.uk 029 2090 9500.