CLILC

 

CLlLC yn ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â diwylliant Tân ac Achub De Cymru

  • RSS
Dydd Mercher, 07 Chwefror 2024 Categorïau: Diogelwch cymunedau a thân ac achub Newyddion
Dydd Mercher, 07 Chwefror 2024

Mae’r CLlLC wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch camau i’w cymryd i fynd i’r afael â’r diwylliant gweithio yn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mater a amlygwyd yn ddiweddar mewn adroddiad annibynnol.

 

Mae pedwar comisiynydd wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio’r Gwasanaeth, gan gynnwys cyn Arweinydd CLlLC, y Farwnes Wilcox o Gasnewydd.

 

Fis diwethaf, mynegodd arweinwyr eu sioc a’u pryder ynghylch yr ymddygiadau annerbyniol a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad “na ellir ac na fydd yn cael eu goddef”.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Llefarydd CLlLC ar y Gweithlu:

 

“Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar ganfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol, i ddiwylliant gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn adlewyrchiad damniol o rai ymddygiadau a arddangosir gan unigolion”

 

“Mae’r adroddiad yn amlygu rhywfaint o ymddygiad annerbyniol ac ysgytwol na ddylid byth ei oddef yn y gweithle. Rwy’n gobeithio y bydd camau gweithredu pendant Llywodraeth Cymru yn arwain at y newid mawr a chynaliadwy sydd ei angen.”

 

“Bydd CLlLC ac awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Comisiynwyr a phartneriaid i roi’r camau gweithredu sydd eu hangen i greu diwylliant cadarnhaol a chynhwysol, sy’n rhydd o wahaniaethu ar waith.”

 

DIWEDD –

 

NODIADAU I OLYGYDDION

 

Llywodraeth Cymru yn penodi comisiynwyr i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn dilyn adroddiad 'damniol'

https://www.wlga.cymru/wlga-committed-to-working-with-the-welsh-government-to-address-south-wales-fire-and-rescue-culture