Mae WLGA heddiw wedi mynegi pryder gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, David Gauke AS, am brofiadau unigolion wrth hawlio budd-dal Credyd Cynhwysol.
Gyda’r bwriad o symleiddio’r ddarpariaeth les yn y DU, mae’r broses o gyflwyno’r system Credyd Cynhwysol yn gyson wedi bod yn ddadleuol gyda nifer sylweddol o bobl yn profi caledi ariannol o ganlyniad i’r amser sy’n cael ei gymryd i brosesu ceisiadau, gan adael llawer gydag ôl ddyledion rhent a mwy o ddyledion.
Yn yr ardaloedd hynny o Gymru ble mae Credyd Cynhwysol eisoes wedi ei gyflwyno, sef Sir y Fflint a Thorfaen hyd yn hyn, adroddwyd oedi sydd wedi arwain at hawlwyr yn canfod eu hunain mewn trafferthion ariannol neu’n anghenus tra’n disgwyl am eu ceisiadau i gael eu prosesu a derbyn eu taliadau cyntaf.
Mewn llythyr i’r Ysgrifennydd Gwladol ar ran Aelodau Cabinet dros Dai, dywedodd llefarydd WLGA dros Dai, y Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint):
“Mae’r ardaloedd lleol hynny ble mae Credyd Cynhwysol eisoes wedi cael ei gyflwyno wedi adrodd oedi wrth dderbyn taliadau sydd wedi effeithio ar allu tenantiaid i dalu rhent a cyrraedd eu costau rhent llawn, ac mae mwy o bryder am y system newydd yn arwain at fwy o bwysedd a thensiwn o fewn teuluoedd.”
“Bu i Aelodau Cabinet dros Dai gwrdd yn ddiweddar i drafod y nifer cynyddol o deuluoedd ac unigolion sydd â risg o fod yn ddigartref a chwilio am gymorth a chefnogaeth, yn arbennig i gwrdd â’u costau tai a hynny gan fwyaf oherwydd y newidiadau i’r system budd-daliadau. Daw hyn er gwaethaf deddfwriaeth flaengar yng Nghymru o dan y Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a’r ffocws ar osgoi digartrefedd.”
Mae nifer sylweddol o bobl wedi gorfod aros hyd at 6 wythnos cyn derbyn eu taliad, gyda rhai hawlwyr yn gorfod aros hyd at 12 wythnos, gan eu gadael gyda phrin neu ddim arian yn ystod yr amser hynny.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton:
“Mae’r amser y mae hawlwyr wedi gorfod aros cyn derbyn eu taliad cyntaf yn peri gofid mawr a credwn y dylai oedi o’r fath gael ei gywiro ar frys cyn cyflwyno’r system newydd i ardaloedd eraill, fel ein bod yn lleihau’r effeithiau negyddol yma ar hawlwyr, a lleihau’r nifer o bobl sydd wedi cael eu gadael gyda dim incwm i fyw arno.”
“Rydym hefyd yn credu bod paratoi tenantiaid ar gyfer y newidiadau sy’n dod yn sgil Chredyd Cynhwysol a sut orau i reoli hynny yn allweddol i newid i’r system newydd yn llwyddiannus, ac mae awdurdodau lleol yn cynnal ystod o waith gyda thenantiaid a thrigolion wrth helpu i baratoi ar gyfer, er enghraifft, cynllunio ariannol a chefnogi teuluoedd a’u helpu i ddatblygu gwydnwch.”
“Fodd bynnag, mae nifer y rheiny sydd yn chwilio am help ar ôl symud i’ Gredyd Cynhwysol wedi cynyddu sydd yn rhoi straen ar fecanweithiau cefnogi sydd eisoes dan bwysau.”
“Rydym eisiau mynegi ein pryder am brofiadau negyddol rhai o hawlwyr y budd-dal Credyd Cynhwysol yn yr ardaloedd hynny o Gymru ble mae’n cael ei weithredu hyd yn hyn., ac i gefnogi’r galwadau hynny gan eraill, gan gynnwys Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gymunedau a Phlant, i roi saib ar gyflwyno Credyd Cynhwysol ymhellach nes y gellir gwneud gwelliannau i’r rhaglen, yn ogystal a phrofiadau hawlwyr.”
“Mae’n bwysig ein bod yn dysgu o’r profiadau hyd yma, yn bositif ac yn negatif, er mwyn gallu addasu fel bod angen ac er mwyn i holl uchelgais Credyd Cynhwysol, fel y cafodd ei ddychmygu yn wreiddiol, gael ei wireddu.”
Croesawodd WLGA y penderfyniad diweddar gan Lywodraeth DU i ddiddymu’r costau ffôn ar gyfer llinell gymorth Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas yn galw ar Lywodraeth DU i roi saib ar gyflwyno’ Credyd Cynhwysol yn ehangach er mwyn mynd i’r afael â’r effeithiau negyddol hynny.
-DIWEDD-