Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cydweithio’n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr (LGA) o ran adolygiadau cymheiriaid a bydd llawer o’r cymheiriaid yn dod o awdurdodau yn Lloegr. Mae WLGA am ddenu cymheiriaid o awdurdodau yng Nghymru ar gyfer adolygu yn y wlad hon yn ogystal â chymryd rhan mewn adolygiadau yn Lloegr trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr.
- Cymheiriaid profiadol sydd wrth wraidd adolygu o’r fath a’r gwella mae’r sector ei hun yn ei arwain
- Bydd cymheiriaid yn cyfleu ‘ymwybyddiaeth ymarferwr’ ac yn codi cwestiynu fel ‘cyfaill beirniadol’
- Gan weithio ar y cyd, gyda chymorth cydlynwyr profiadol WLGA, fe fydd ein cymheiriaid yn treulio peth amser ar safle cyngor i’w helpu i wella a dysgu
- Bydd cymheiriaid yn helpu i feithrin gallu, hyder a chynaladwyedd trwy godi cwestiynau am arferion a lledaenu gwybodaeth a phrofiad
Rhaid i gymheiriaid (boed swyddog neu gynghorydd) roi rhywfaint o’u hamser ar gyfer yr adolygu. Fel arfer, bydd angen darllen dogfennau i ymbaratoi, a threulio tri neu bedwar diwrnod ar safle’r awdurdod dan sylw wedyn. Serch hynny, mae’n brofiad gwerthfawr y gallwch chi ei fwynhau. Bydd cymheiriaid yn dysgu llawer ac yn gallu lledaenu’r hyn sydd wedi’i ddysgu yn eu sefydliadau eu hunain.
Dolen: Sylwadau cymheiriaid – astudiaethau
Dolen: Hoffech chi fod yn gymar?
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford