CLILC

 

Llywodraeth leol yng Nghymru yn galw am sefydlogrwydd gan lywodraeth y DU

  • RSS
Dydd Gwener, 30 Medi 2022 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Gwener, 30 Medi 2022

Mae CLlLC heddiw wedi rhybuddio o’r niwed difrifol y mae’r cythrwfl yn y farchnad yn ei gael ar gyllidebau cynghorau Cymru, sydd eisoes wedi eu simsanu.

Ar ddydd Gwener 23 Medi, bu i gyllideb fechan y Canghellor achosi ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd ariannol a dyledion, gan ychwanegu at y risg chwyddiant sy’n wynebu cyllidebau cynghorau.

Mewn cyfarfod o Fwrdd Gweithredol CLlLC, mynegwyd pryder gwirioneddol gan arweinwyr cyngor am yr effaith yma ar gyllidebau gwasanaethau cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Ers amser, rydyn ni wedi bod yn gwbl glir o’r storm ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol. Mae biliau ynni, chwyddiant, galw ar wasanaethau, a chostau cyflog i gyd eisoes yn taro gwasanaethau lleol hanfodol yn galed. Gallai’r storm honno droi yn swnami os na fydd llywodraeth y DU yn gweithredu i ailsefydlu hyder yn y farchnad ac i atal chwyddiant rhag esgyn yn fythol uwch. Dim rhyw ddigwyddiad pell oedd cyllideb fechan y Canghellor, ond datganiad o fwriad gyda chanlyniadau nerthol go iawn i wasanaethau cyhoeddus ac, yn eu tro, ein cymunedau.”

“O ganlyniad i’r dewisiadau yma, mae gwasanaethau lleol mewn perygl difrifol. Mae pwyseddau chwyddiant, costau ynni a’r effaith ar fenthyg yn creu twll sylweddol yng nghyllidebau eleni gyda gwaeth i ddod y flwyddyn nesaf. Os nad oes cefnogaeth ar fyrder, bydd yn rhaid i gynghorau ystyried cwtogi gwasanaethau a cholli swyddi o ganlyniad. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r effaith yma ac wedi cael trafodaethau gyda’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol am y pwyseddau. Ond wrth i Brif Weinidog y DU gwrdd â’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol (OBR) heddiw, rydyn ni’n gofyn i lywodraeth y DU gamu nôl ac i ystyried effeithiau eu polisïau ar y cyhoedd ac ar wasanaethau cyhoeddus.

“Rydyn ni hefyd gwir angen eglurder o ran effeithlonrwydd adrannol a chadarnhad o gyllid cynaliadwy yn dod o San Steffan i Gymru, fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu buddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol ar adeg mor dyngedfennol.”

 

DIWEDD-

https://www.wlga.cymru/welsh-local-government-calls-for-stability-from-uk-government