Fe roes y Frenhines sêl ei bendith ar Ddeddf 'Diwygio Budd-daliadau' ar 8fed Mawrth 2012. Bydd y ddeddf yn effeithio ar y cynghorau mewn sawl ffordd:
-
Bydd y Credyd Cyffredinol yn cyfuno amryw fudd-daliadau sydd ar gael i bobl o oedran gweithio.
-
Bydd Cynllun Cymorth Treth Cynghorau fis Ebrill 2013 yn achosi anawsterau i'r cynghorau a'u partneriaid ledled y gwasanaethau cyhoeddus.
-
Bydd uchafswm y cymorth ariannol ar gyfer tai yn cwtogi ar incwm sawl teulu a bydd angen i'r cynghorau roi rhagor o gymorth o ganlyniad.
Gyda chymorth rheolwyr budd-daliadau ledled y wlad, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi cymryd rhan er dechrau 2012 yn rhai o weithgorau Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan sy'n paratoi cynghorau lleol ar gyfer y Credyd Cyffredinol yn y DG. Er mis Mai 2012, mae WLGA wedi mynd ar ôl tair blaenoriaeth ym maes diwygio budd-daliadau, hefyd:
-
Cydweithio â Llywodraeth Cymru i leddfu effaith Cynllun Cymorth Treth y Cynghorau ar gynghorau a phreswylwyr. Cliciwch yma
-
Gofalu bod rôl i'r cynghorau yn nhrefn y Credyd Cyffredinol
-
Cadw golwg ar effaith y newidiadau cyfredol a'r rhai sydd ar y gweill o ran Budd-dal Tai
I helpu cynghorau a hawlwyr i ddarparu ar gyfer effeithiau Deddf 'Diwygio Budd-daliadau' 2012, bydd WLGA yn cyhoeddi ar y dudalen hon nifer o adnoddau defnyddiol sydd wedi'u llunio yma ac mewn sefydliadau eraill megis Llywodraeth Cymru, seiadau doethion, prifysgolion a chyrff eraill.
Digwyddiad: 'WLGA Welfare Leads Day', 29ain Mehefin 2017, Caerdydd. Mae rhagor o wybodaeth yma, agor dolen
Dolenni: Personal Independence Payment / Universal Credit / Credyd cynhwysol (Lles sy'n gweithio) / Credyd cynhwysol & Chi / Benefit Cap / Spare Room Subsidy / Touchbase (Cylchlythyr DWP) / Citizens Advice / Disability Rights UK / Gwasanaeth Cynghori Ariannol / Welfare Rights
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jon Rae