Arweinwyr cynghorau DU yn cytuno i weithredu ar y cyd ar safonau mewn bywyd cyhoeddus

Dydd Gwener, 08 Tachwedd 2019

Cyfarfu arweinwyr y pedwar Cymdeithas Llywodraeth Leol yn Fforwm y DU yng Nghaerdydd ar y 5ed o Dachwedd i drafod ein blaenoriaethau cyffredin a chytuno rhaglen ar y cyd o weithredu i hybu gwarineb mewn bywyd cyhoeddus.

 

Gan groesawu ei chyfoedion, dywedodd y Farwnes Wilcox o Gasnewydd, Arweinydd CLlLC:

“Mae’n eithriadol o bwysig i’r teulu llywodraeth leol gwrdd drwy Fforwm y DU gan ein bod ni’n rhannu uchelgeisiau ac yn profi heriau sy’b gyffredin i ni i gyd. Mae ein cymdeithasau yn rhoi llais unedig i lywodraeth leol, a ble y gallwn ni siarad gydag un llais ar draws y bedair gymdeithas, yna bydd ein llais yn gryfach fyth.”

 

Cytunodd y Fforwm ar raglen waith yn cael ei arwain ar y cyd i hybu ‘Gwarineb Mewn Bywyd Cyhoeddus’, yn dilyn pryderon ynghylch effaith y cynnydd mewn bygythiadau tuag at gynghorwyr a natur gwenwynig dadleuon ar ddemocratiaeth ein gwlad.

 

Dywedodd y Cynghorydd James Jamieson, Cadeirydd y Gymdeithas Lywodraeth Leol (LGA):

“Mae dadlau a gwahaniaeth barn i gyd yn ran o ddemocratiaeth iach, ond mae bygythiadau a cham-drin yn tanseilio hynny trwy fagu ofn yn y rhai hynny sy’n ei gynrychioli. Un o’n pryderon mwyaf blaenllaw yw’r cynnydd o ran y digwyddiadau o fygwth a cham-drin ein cynrychiolwyr etholedig. Mae’r ymosodiadau yma yn bygwth diogelwch personol cynghorwyr, yn tanseilio democratiaeth leol ac yn gallu troi bryd ymgeiswyr posibl oddi ar sefyll mewn etholiadau.”

 

Wrth drafod Brexit, galwodd arweinwyr am mwy o frys gan Lywodraeth y DU dros gynigion o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yr olynydd i gyllid Ewropeaidd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alison Evison, Llywydd Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA):

“Rydyn ni’n cydnabod nad yw Brexit heb ei ddatrys eto, ond mae awdurdodau lleol angen eglurder a sicrwydd na fydd unrhyw wlad, rhanbarth neu gymuned ar ei cholled trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.”

 

Gan sylwadu ar rôl cynghorau yng Ngogledd Iwerddon yn absenoldeb gweithredu Cynulliad Gogledd Iwerddon, dywedodd y Cynghorydd Martin Kearney, Is-Lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon (NILGA):

“Er nad yw’r Cynulliad heb gyfarfod am dros fil o ddyddiau, mae cynghorau a chynghorwyr wedi torchi eu llewys a chario ‘mlaen i ddarparu arweiniad ar gyfer cymunedau lleol. Ond mae penderfyniadau allweddol a chyllid yn cael eu dal yn ôl oherwydd y sefyllfa yma mewn cyfnod tyngedfenol i gynllunio o ran Brexit; dylai cynghorau yng Ngogledd Iwerddon gael eu pweru gyda’r penderfyniadau yma’n cael eu datganoli i lywodraeth leol i’n galluogi ni i fwrw ‘mlaen a’r swydd o ddarparu ar gyfer ein cymunedau.

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30