CLILC

 

Diolch i weithwyr diflino am ymateb i ddwy storm eithafol mewn dwy wythnos

  • RSS
Dydd Llun, 17 Chwefror 2020

Mae CLlLC heddiw wedi diolch i staff cyngor ar draws Cymru am fynd “y filltir ychwanegol” yn sgil yr anhrefn a achoswyd ymhob ran o’r wlad gan Storm Ciara a Storm Dennis.

Disgynnodd 6.5 modfedd o law yn y 48 awr rhwng hanner dydd ddydd Gwener a Sadwrn, gan achosi anhrefn sylweddol a pheryglus mewn sawl rhan o’r wlad. Dyma’r ail digwyddiad tywydd o’i fath mewn wythnos, wedi Storm Ciara yr wythnos diwethaf a effeithiodd ar rannau helaeth o Gymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae gweithwyr cyngor, ynghyd â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwasanaethau brys, wedi bod yn gweithio bob awr dros y penwythnos i ddelio â’r amodau tywydd eithriadol yr ydyn ni wedi eu gweld ymhob cwr o’r wlad. Am yr eildro mewn cymaint o wythnosau, mae gweithwyr cynghorau Cymru wedi dangos ymrwymiad clodwiw o ran dyletswydd i’r cyhoedd.

“Ynghyd â glanhau cylfatiau, clirio coed wedi disgyn, dosbarthu sachau tywod ac ymateb i argyfyngau, rydyn ni wedi gweld ein criwiau diflino yn mynd y filltir ychwanegol mewn canolfannau argyfwng, yn cadw gwasanaethau hanfodol ar agor, ac yn gwneud yn siwr ein bod ni i gyd yn saff. Hoffwn fynegi fy niolch diffuant iddyn nhw i gyd am eu gwaith yn ymateb i’r ddwy storm, ac am eu hymdrechion yn clirio wedi’r llanast.”

“Rydyn ni’n dal i weld effeithiau’r tywydd mewn sawl rhan o Gymru. Mae rhai ffyrdd yn parhau i fod ar gau, ac mae amodau gyrru yn parhau i fod yn beryglus mewn rhai ardaloedd. Gall trigolion ganfod mwy am y sefyllfa yn eu hardal leol trwy ymweld â gwefan eu cyngor neu ar gyfryngau cymdeithasol.

“Er ei bod yn rhy gynnar i asesu’r difrod sydd wedi’i achosi yn llawn, mae’n debygol iawn o fod yn sylweddol. Bydd CLlLC yn gweithio’n agos ac yn gyflym gyda Llywodraeth Cymru i archwilio pa help sydd ar gael i gynghorau ar gyfer cefnogi ymdrechion i adfer ac ailadeiladu.”

 

-DIWEDD-

 

 

https://www.wlga.cymru/tireless-workers-thanked-for-response-to-two-extreme-storms-in-successive-weeks