CLILC

 

Adolygiad Gwariant: “Mae’n amser i anrhydeddu addewid i fuddsoddi yng ngwasanaethau lleol hanfodol Cymru”

  • RSS
Dydd Mercher, 04 Medi 2019 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Mercher, 04 Medi 2019

 

Yn dilyn yr Adolygiad Gwariant heddiw, mae arweinwyr cyngor yn galw am unrhyw gyllid ychwanegol a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol.

Amlinelliad yw Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU o sut y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i adrannau yn Whitehall ac i’r gweinyddiaethau datganoledig.

Yn ychwanegol i’r grant bloc i Lywodraeth Cymru, bydd unrhyw addewidion gan y Canghellor o arian newydd i ysgolion, addysg pellach a’r GIG yn golygu peth arian canlynliadol ychwanegol i Gymru, ac mae llywodraeth leol yn galw am i’r arian yma gael ei fuddsoddi yn ein gwasanaethau lleol.

Cyhoeddodd y Canghellor £600m yn ychwanegol i Gymru. Byddai buddsoddi yr arian yma mewn gwasanaethau lleol megis gofal cymdeithasol, ysgolion a thai yn rhoi hwb ariannol sydd ddirfawr ei angen iddyn nhw a chymunedau Cymru wedi degawd o doriadau llym.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLlLC:

“Rwy’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU o adnoddau ychwanegol i Gymru heddiw, ond wedi 10 mlynedd o gynni bydd yn rhaid i ni weld mwy o fanylion cyn credu ei fod yn wir. Daw’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn llythyr a anfonwyd ar y cyd gan y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol a minnau i Lywodraeth San Steffan y mis diwethaf.”

“Er bod cynghorau wedi gorfod cario baich trymaf y cynni yn y sector gyhoeddus dros y ddegawd diwethaf, mae nhw wedi parhau i ddarparu gwasanaethau lleol hollbwysig mewn cymunedau ymhob rhan o Gymru. Ond mae gallu cynghorau i barhau i ddarparu gwasanaethau, gyda llai a llai o arian bob blwyddyn, erbyn hyn wedi dod i ben.

“Gwasanaethau dewisol sydd yn agos i galonnau trigolion sydd wedi gorfod dioddef yr helyw o ostyngiadau cyllidebol: mae gwariant y pen ar lyfrgelloedd i lawr 38%, gwriant ar ddiwylliant wedi lleihau 45%, gwasanaethau cynllunio a rheoleiddio i lawr bron 60%. Mae’n glir na fydd yn bosib darparu gwasanaethau yn yr un modd os yw’r gostyngiadau drastig yn parhau.”

“Gyda chyllid teg a chynaliadwy, a gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, gall dros 700 o wasanaethau lleol hanfodol sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau – o ysgolion a gofal cymdeithasol, i drafnidiaeth, safonau masnach, tai ac eraill – gyfrannu llawer mwy tuag at lesiant ein cymunedau.

“Mae arweinwyr yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu iechyd yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi derbyn addewidion gan y Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a’r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol mai gwasanaethau lleol hanfodol fydd ar flaen y linell am unrhyw gyllid ychwanegol sydd yn dod i Fae Caerdydd. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle nawr i anrhydeddu’r ymrwymiad hwnnw ac i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:

“Mae cynni wedi effeithio ar bob cymuned yng Nghymru, gyda gwasanaethau lleol hanfodol yn dioddef y toriadau llymaf ar draws y sector gyhoeddus. Rydyn ni’n gweld bod gwasanaethau allweddol, megis ysgolion, gofal cymdeithasol a thai, wedi cyrraedd y pen wedi degawd o doriadau enbyd. Mae’n hollbwysig bod y gwasanaethau yma yn derbyn buddsoddiad, neu mi fydden nhw’n parhau i wywo.”

“Mae gwasanaethau cyngor yn rhan fawr o’r gwasanaeth iechyd lleol. Byddai buddsoddiad mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol – sy’n cadw pobl yn iach ac i ffwrdd o ystafelloedd aros ysbytai a meddygon – ostwng y baich o gostau salwch ar y GIG.

“Ond mae pryderon ynglyn â chostau gweithlu mewn ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau rheng flaen eraill yn parhau i daflu ei gysgod dros lywodraeth leol, ac yn amharu ar allu awdurdodau i gynllunio ymlaen. Mae’n allweddol bod gwasanaethau lleol yn cael y galw cyntaf ar adnoddau ychwanegol sy’n llifo lawr yr M4 o San Steffan neu bydd gwasanaethau ataliol yn dioddef, a’r galw ar wasanaethau fel y GIG yn neidio o ganlyniad.”

 

Mae cynghorau wedi parhau i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol i gymunedau er gwaethaf colli tua £1bn mewn cyllid a dros 37,000 o swyddi yng ngweithlu llywodraeth leol ers cychwyn cynni bron i ddegawd yn ôl. Ond mae arweinwyr wedi rhybuddio’n gyson na all wasanaethau lleol, sydd eisoes wedi goddef toriadau dirfawr, gwrdd ag unrhyw ostyngiadau cyllidebol pellach yn y dyfodol.

 

-DIWEDD-

Wedi degawd o gynni, cliciwch yma i ddarganfod pam mae cynghorau yn galw am setliad cyllid teg ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol:

https://www.wlga.cymru/time-to-honour-vow-to-invest-in-wales-vital-local-services